Disgrifio Nodweddian
Tirweddau Hanesyddol |
|
HLCA 061 Coridor Dyffryn Afon Taf Fawr Tirwedd grefyddol,
angladdol a defodol: mynwentydd a sefydlwyd yn y 19eg ganrif ac yn ddiweddarach;
coridor rheilffordd a ffyrdd, nodweddion amaethddiwydiannol.
|
|
Crynodeb Tirwedd dyffryn a nodweddir yn bennaf gan y defnydd sefydledig sydd wedi'i wneud ohoni at ddibenion claddu pobl. Cefndir Hanesyddol Mae ardal dirwedd hanesyddol Coridor Dyffryn Afon Taf Fawr yn cynnwys dyffryn Afon Taf i'r gogledd o Waith Haearn Cyfarthfa. Cafodd y defnydd a wnaed o'r ardal at ddibenion claddu pobl ar ôl sefydlu Mynwent Cefn ym 1858 gryn effaith ar gymeriad yr ardal; roedd cynigion dyddiedig 1857 yn awdurdodi gwaith cynllunio'r tir, ac adeiladu capeli, porthordy a ffin derfyn. Darluniwyd y brif fynwent rhwng Brecon Road ac Afon Taf ym 1890 a chapel a phorthordy. Erbyn 1919, roedd y fynwent wedi ymestyn i gynnwys ardal ar ochr orllewinol Afon Taf, gyda phont yn cysylltu'r ddwy ochr. Ym 1860, prynodd y Gymuned Iddewig dir ar gyfer Mynwent Iddewig, ar ochr ddwyreiniol Brecon Road: cynhaliwyd y gladdedigaeth gyntaf ym 1870; cyn hynny roedd claddedigaethau wedi'u cynnal yn Abertawe. Dyblodd maint y Fynwent Iddewig a'i chapel angladdol bach rhwng 1890 a 1918, sy'n arwydd o faint y Gymuned Iddewig ar y pryd. Ffurfiai'r ardal goridor y rheilffordd adeiladu ar gyfer Cronfa Ddŵr Llwyn-Onn, a adeiladwyd rhwng 1914 a 1927. |
|
Ffynonellau | |
Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag
Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y
cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk
neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk
|