Disgrifio Nodweddian
Tirweddau Hanesyddol |
|
HLCA 057 Trefechan Datblygiad tai cymdeithasol yn dyddio
o'r cyfnod ar ôl yr Ail Ryfel Byd, adeiladau domestig, cyhoeddus
a masnachol.
|
|
Crynodeb Tirwedd drefol yn dyddio o'r cyfnod ar ôl yr Ail Ryfel Byd a ddisgrifir fel cymuned hunangynhwysol a gynlluniwyd gan benseiri, enghraifft o gynllunio cymdeithasol yn dyddio o ganol yr 20fed ganrif. Cefndir Hanesyddol Ardal dirwedd hanesyddol Trefechan a gynlluniwyd ym 1947 (Arthur J Hayes a Gordon H Griffiths). Ystâd gyngor y bwriedid iddi weithredu fel cymuned ar wahân â'i hadeiladau cyhoeddus ei hun; cynllun ffyrdd ffurfiol, mae'r tai i gyd yn dai pâr ar ongl i'r cyfuchliniau, ac maent wedi'u hadeiladu o wahanol ddeunyddiau: brics moel neu â phlastr garw arnynt, slabiau rhag-gastiedig, a chladin pren. |
|
Ffynonellau | |
Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag
Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y
cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk
neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk
|