Disgrifio Nodweddian
Tirweddau Hanesyddol |
|
HLCA 056 Yr A465(C) Ffordd Blaenau'r Cymoedd Coridor trafnidiaeth;
ffordd a phontydd a adeiladwyd yng nghanol yr 20fed ganrif.
|
|
Crynodeb Coridor trafnidiaeth yn cynnwys enghreifftiau pwysig o waith cynllunio pontydd yn dyddio o ganol yr 20fed ganrif. Cefndir Hanesyddol Mae ardal dirwedd hanesyddol yr A465(C) Ffordd Blaenau'r Cymoedd yn cynnwys y cysylltiad ffordd a adeiladwyd ym 1964. Mae nodweddion pwysig yn cynnwys y tair pont ffordd gyfoes sy'n cario Ffordd yr A465(C) dros afonydd a nentydd, y newidiwyd un ohonynt ers hynny. Adeiladwyd y pontydd ffordd hyn gan Rendel, Palmer a Tritton (Penseiri ymgynghorol Alex Gordon a'i Bartneriaid), o goncrid dur yn ôl cynlluniau gwahanol, dwy â phâr o asennau bwaog parabolig ac un â thri bwa ar gantilifrau o ddau biler. Enillodd y pontydd hyn wobrau dinesig ym 1968. |
|
Ffynonellau | |
Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag
Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y
cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk
neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk
|