Disgrifio Nodweddian
Tirweddau Hanesyddol |
|
HLCA 048 Cwm Blacks Ardal adferedig o weithfeydd cloddio
glo yn dyddio o'r 19eg; man gwyrdd trefol; coridor trafnidiaeth modern. |
|
Crynodeb Ardal adferedig o weithfeydd glo helaeth yn dyddio o'r 19eg ganrif a gysylltir â Gwaith Haearn Plymouth. Mae'r ardal yn gweithredu ar hyn o bryd fel coridor trafnidiaeth ar gyfer yr A4060(C). Cefndir Hanesyddol Mae ardal dirwedd hanesyddol Cwm Blacks yn cynnwys ardal adferedig o weithfeydd haearnfaen a glo helaeth yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif/dechrau'r 19eg ganrif a gysylltir ag Anthony Hill a Chwmni Haearn Plymouth. Dangosai tystiolaeth gartograffig ddyddiedig 1813 fod Mwyngloddiau Haearn wedi'u lleoli ychydig i'r gogledd yn ardal Cwm Blacks/Pencoedcae. Erbyn 1826, roedd rhwydwaith o dramffyrdd ac incleins, gan gynnwys prif System Incleins Clyn Mil/Coedcae, wedi'i sefydlu ledled yr ardal a gysylltai Waith Haearn Plymouth â gwahanol weithfeydd yn yr ardal a'r tu hwnt; cynhwysai'r rhain lefelydd haearnfaen a gweithfeydd stripio lleiniau yng Nghwm Blacks. Roedd yr ardal yn rhan o ddaliad Clyn-Mil o eiddo ystad Robert Henry Clive, a brydleswyd i Anthony Hill ym 1850. Roedd yr ardal wedi'i chloddio ar raddfa fawr erbyn cyhoeddi map 6 modfedd yr AO dyddiedig 1875, a ddangosai lefelydd haearnfaen a glo, o leiaf un siafft, gwahanol domenni 'clustog' a llinellol bach, a chronfeydd dwr a ffrydiau wedi'u trefnu ar hyd glan ddwyreiniol Nant Cwm Blacks. Nodwyd Inclein Clyn Mil a gwahanol dramffyrdd yn cysylltu gweithfeydd haearnfaen/glo'r ardal a Gwaith Haearn Plymouth ym 1875 hefyd; gallai tramffyrdd niferus eraill a nodwyd, awgrymu yr arferai rhwydwaith llawer helaethach o dramffyrdd a ffyrdd halio wasanaethu'r ardal. Dangosai'r dystiolaeth gartograffig fod gweithgarwch cloddio bron wedi dod i ben yn yr ardal rhwng 1875 a 1898, pan gaeodd Gwaith Haearn Plymouth ym 1880 yn ôl pob tebyg. Adferwyd yr ardal ar ôl hynny ac adeiladwyd ffyrdd trwyddi yn ystod chwarter olaf yr 20fed ganrif. |
|
Ffynonellau | |
Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag
Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y
cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk
neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk
|