Disgrifio Nodweddian
Tirweddau Hanesyddol |
|
HLCA 045 Bryn a Chastell Morlais Tirwedd amddiffynnol ac
amaethyddol greiriol; Fferm ddiwydiannol a gynlluniwyd; caeau mawr afreolaidd
eu siâp, nodweddion crefyddol, angladdol a defodol cynnar; coridor
trafnidiaeth ddiwydiannol; nodweddion hamdden yn dyddio o ddechrau'r 20fed
ganrif; adeiladau iechyd cyhoeddus.
|
|
Crynodeb Tirwedd greiriol o bwys cenedlaethol yn dyddio o'r cyfnod cynddiwydiannol, lle mai cadarnle canoloesol Castell Morlais yw'r nodwedd amlycaf. Mae'r ardal yn cynnwys nodweddion amddiffynnol, domestig ac angladdol yn dyddio o'r cyfnodau cynhanesyddol a chanoloesol, gan gynnwys system gaeau greiriol, caeau cynhanesyddol a charnedd gylch yn dyddio o'r Oes Efydd. Ceir hefyd nodweddion amaethyddol ôl-ganoloesol a maeslun o gaeau mawr ond afreolaidd eu siâp yn gysylltiedig â Castle Farm. Ceir rhai nodweddion diwydiannol, er bod y dramffordd yn dyddio o ddechrau'r 19eg ganrif sy'n gysylltiedig â'r chwareli calchfaen gerllaw yn mynd trwy'r ardal. Cefndir Hanesyddol Mae ardal dirwedd hanesyddol Bryn a Chastell Morlais yn cynnwys ardal dirwedd greiriol o bwys cenedlaethol. Nodweddion amddiffynnol yn dyddio o ddiwedd y cyfnod cynhanesyddol a'r cyfnod canoloesol yw elfennau amlycaf yr ardal: sef Castell Morlais, bryngaer unclawdd yn dyddio o'r Oes Haearn, sy'n cynnwys clostir hirsgwar bron yn mesur tua 1.6 ha, sydd wedi'i rannol guddio gan gastell canoloesol diweddarach Castell Morlais. Ystyrir y bu Castell Morlais yn un o gadarnleoedd arglwyddi brodorol Senghennydd cyn cael ei ailadeiladu gan Gilbert de Clare tua 1270. Mae'r safle yn cynnwys dau feili a amgylchynir gan lenfur â phump neu chwech o dyrau, sydd wedi dymchwel i raddau helaeth ond sy'n sefyll mewn mannau, bob un ohonynt wedi'i leoli o fewn clawdd a ffos. Mae'r ardal gyfagos yn cynnwys ffiniau caeau a ddilëwyd gan weithgarwch aredig sy'n gysylltiedig â chae hirsgwar. Darperir elfen dirwedd angladdol a defodol o bwys yn dyddio o'r Oes Efydd gan Garnedd Gylch Bryn Morlais i'r gogledd o'r fferm; clawdd crwn o rwbel calchfaen â mynedfa bosibl i'r de (PRN 0830m). Mae map ystad gan John Edwards yn nodi Castle Farm a'r Castell ym Morlais fel yr ymddangosai ym 1766 (Ystad Sain Ffagan, Iarll Plymouth), tra dangosodd map Yates dyddiedig 1799 y castell a'r fferm unwaith eto, a oedd yn rhes unigol o adeiladau bryd hynny. Erbyn 1814 mae fferm ôl-ganoloesol Castle Farm yn cynnwys tri adeilad hirsgwar ar wahân o fewn cae afreolaidd ag ochrau syth a oedd wedi'i gysylltu gan lôn â Pontsarn Road. Mae'r patrwm caeau a ddangosir ar lun Tirfesurwr yr AO dyddiedig 1826 yn debyg iawn i'r un sy'n ymddangos ar fapiau diweddarach ac yn wir i'r patrwm caeau sydd i'w weld heddiw. Ymddengys hefyd fod ffurf y fferm ddiwydiannol ddiweddarach, sef tair rhes o amgylch iard hirsgwar, yn ei lle erbyn y dyddiad hwn, yn ddiau roedd yn ei lle ym 1848 ac ar fap Degwm 1850, roedd y fferm yn rhan o ystadau Robert Henry Clive. Darluniodd y tri argraffiad o fapiau'r AO rhwng 1875 a 1915 newidiadau yn y dirwedd, megis graddol golli'r ardal i'r gogledd i weithgarwch cloddio, newid y fferm yn gwrs golff, a gynhwysai adeiladu pafiliwn (y Clwb Golff). Mae nodweddion ychwanegol a nodwyd o ffynonellau cartograffig yn cynnwys Ivor's Chair, Carreg Ifan, hen siafft, a rhesi o siediau amaethyddol llinellol i'r gorllewin o'r fferm. Ar ben hynny ar gwr gorllewinol yr ardal o dan safle amlwg Castell Morlais lleolid Sanatoriwm Pontsarn a adeiladwyd ym 1913 o dan nawdd Bwrdd Gwarcheidwaid Merthyr Tudful, a addaswyd yn fflatiau bellach. |
|
Ffynonellau | |
Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag
Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y
cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk
neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk
|