Disgrifio Nodweddian
Tirweddau Hanesyddol |
|
HLCA 042 Chwareli Twynau Gwynion Chwareli calchfaen yn
gysylltiedig â Gwaith Haearn Dowlais a Gwaith Haearn Rhymni a sefydlwyd
yn ddiweddarach; coridor trafnidiaeth. |
|
Crynodeb Cyfres o chwareli yn dyddio o'r 19eg ganrif a gysylltir â Gwaith Haearn Dowlais a Gwaith Haearn Rhymni a sefydlwyd yn ddiweddarach. Cefndir Hanesyddol Mae ardal dirwedd hanesyddol Chwareli Twynau Gwynion yn cynnwys chwarel galchfaen helaeth a ddatblygwyd gan Gwmni Haearn Dowlais o ddechrau'r 19eg ganrif, ar dir a brydleswyd o Ystad Bute. Roedd y chwareli wedi'u cysylltu â Dowlais gan dramffordd, goroesodd pont dramffordd ddyddiedig 1805/15 ychydig i'r de tan 1984 (HLCA 035). Daeth y chwarel i gael ei gysylltu â Gwaith Haearn Guest yn Rhymni ar ôl hynny, ac fe'i cysylltwyd â'r gwaith haearn gan Reilffordd Fwynau Rhymni (Calchfaen) tua 1864. Dengys tystiolaeth gartograffig y gall yr ardal gynnwys yr olion yn gysylltiedig â thramffordd y chwarel, a arferai wasanaethu talcen y chwarel. |
|
Ffynonellau | |
Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag
Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y
cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk
neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk
|