Disgrifio Nodweddian
Tirweddau Hanesyddol |
|
HLCA 039 Ffos-y-Frân Tirwedd ddiwydiannol o bwys
cenedlaethol sy'n gysylltiedig â Gwaith Haearn Dowlais; Tir Comin
ucheldirol a newidiwyd gan ddatblygiadau diwydiannol: ardal sy'n llawn
nodweddion cloddiol, gweithfeydd cloddio glo a haearn yn dyddio o'r cyfnod
rhwng dechrau a chanol y 19eg ganrif yn bennaf a leolir ar hyd y brigiad
mwynau, lefelydd a phyllau ar y cyfan, hefyd olion cynnar gweithfeydd
pyllau coron, a gweithfeydd stripio lleiniau; rhwydweithiau trafnidiaeth;
nodweddion trafnidiaeth; rheilffyrdd diwydiannol a chyhoeddus, nodweddion
draenio: System Draenio Rhydd Dowlais; aneddiadau diwydiannol: yn cynnwys
anheddiad Gweithwyr Haearn cofrestedig Ffos-y-frân.
|
|
Crynodeb Tirwedd eang o bwys cenedlaethol sy'n cynnwys safleoedd diwydiannol yn gysylltiedig â Gwaith Haearn Dowlais. Mae'r safleoedd diwydiannol hyn yn cynnwys yn bennaf nodweddion yn gysylltiedig â gweithgarwch cloddio mwyn haearn ac, i raddau llai, lo, a oedd ar waith rhwng diwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif. Nodweddir yr ardal gan nodweddion cloddiol (tomenni gwastraff yn bennaf), System Draenio Rhydd Dowlais yn gysylltiedig â Gwaith Haearn Dowlais a Gwaith Haearn Ivor a sefydlwyd yn ddiweddarach, a rheilffyrdd a thramffyrdd mwynau yn ogystal â rheilffyrdd cyhoeddus (sy'n segur bellach). Cefndir Hanesyddol Mae ardal dirwedd hanesyddol Ffos-y-fran yn cynnwys tirwedd gloddiol ddiwydiannol bwysig; gweithfeydd cloddio glo a haearnfaen ar hyd brigiad gorllewinol Tir Comin Merthyr Tudful, sy'n gysylltiedig â Gweithfeydd Haearn Dowlais a Phenydarren, yw nodweddion amlycaf yr ardal. Dylid pwysleisio er bod y mwyafrif o'r olion ar yr wyneb yn yr ardal yn weithfeydd glo a haearnfaen brig yn dyddio o'r 19eg ganrif sy'n gysylltiedig â'r prif gyfnod o weithgarwch yng ngweithfeydd Dowlais a Phenydarren (caeodd yr olaf tua 1859), fod gweithfeydd brig yn yr ardal yn rhychwantu'r rhan fwyaf o'r ganrif. Mae'r rhain yn dechrau ar ddiwedd y 18fed ganrif ac yn gorffen gyda rhywfaint o weithgarwch gweddilliol ar ddechrau'r 20fed ganrif. Ffurfiwyd tirwedd heddiw i bob pwrpas gan gyfres o gyfnodau o weithgarwch cloddio a welwyd yn y 19eg ganrif (gan gynnwys ailgloddio ardaloedd cynharach). Am fod y brigiad yn hawdd ei gyrraedd, yn arbennig y cronfeydd haearn, mae'n debyg bod rhywfaint o weithgarwch cloddio yn digwydd yn ystod y cyfnod o ddiwedd y 18fed ganrif hyd ddechrau'r 19eg ganrif. I ddechrau byddai'r mwyn wedi'i gloddio neu ei weithio mewn clytiau, ac roedd lefelydd a phyllau bach hefyd. Mae'r gweithgareddau hyn wedi creu wyneb llethrog tua chilomedr o hyd, sy'n ymddolennu o amgylch copa'r llethrau yn wynebu'r gogledd-orllewin-orllewin i'r gogledd o Ffos-y-fran, efallai ar linell mainc erydu a fodolai eisoes (bu rhywfaint o weithgarwch ailgloddio yn yr ardal mewn cyfnodau diweddarach). Mae ardal arall o weithgarwch stripio lleiniau neu gloddio mwyn agored, yn mesur tua 9.5 ha, ynghyd ag ardaloedd sydd wedi goroesi yn cynnwys gweithfeydd o'r math sy'n nodweddu pyllau coron, yn parhau i'r de i anheddiad y mwyngloddwyr mwyn haearn. Mae'n bosibl i broses a elwir yn sgwrio gael ei defnyddio i gael gwared â gorlwyth ar gyfer y gweithfeydd stripio lleiniau er bod y dystiolaeth sydd wedi goroesi yn yr ardal bellach yn amhendant. Nid ymddengys i weithgarwch sgwrio ar y maes glo, er bod cryn dystiolaeth ddogfennol amdano yn y 18fed ganrif, bara'n hir iawn ar ôl dechrau'r 19eg ganrif. Roedd System Draenio Rhydd Dowlais, system ddyfeisgar o gronfeydd dwr a ffrydiau, a gyflenwid trwy ddisgyrchiant, ac a arferai ddarparu dwr ar gyfer Gwaith Haearn Dowlais a systemau cydbwyso dwr ei weithfeydd cysylltiedig, hefyd yn un o nodweddion yr ardal (er bod y crynhoad mwyaf o nodweddion sydd wedi goroesi i'w gael bellach yn ardal HLCA 031 gerllaw). Roedd y system, sy'n dyddio yn rhannol o tua 1818, yn hollbwysig wrth ehangu'r gwaith haearn yn Nowlais ac yn wir Benydarren. Cyflenwai ddwr i byllau glo a gwaith haearn Dowlais trwy rwydwaith helaeth o ffrydiau a chronfeydd dwr ar wyneb y ddaear a sianeli tanddaearol ar ffurf U, a adeiladwyd yn ôl 'patrwm Dowlais' o fewn gwahanol weithfeydd, megis y Brew House Level, a Buxton's neu'r Purple Level. Draeniai'r system amrywiaeth o wythiennau glo gan gynnwys Pedair Troedfedd Isaf ardal Cwmbargod, Trecati a Threhir a'r Gwythiennau Pedair Troedfedd Uchaf ac Isaf, Big Coal, Red a Spotted yn ardaloedd Pantywaun, Rhaslas, a South Tunnel. Draeniai yn y pen draw i bwll dwr ym Mhwll Glo Tyle Dowlais, lle y gellid pwmpio'r dwr yn ôl i'r system ar yr wyneb neu ganiatáu iddo ddraenio i lefelau llenwi ffwrneisi Penydarren (Owen 1977, 67-8). Nodweddid gweithgarwch cloddio brig yn yr ardal yng nghanol y 19eg ganrif (1820au hyd 1880au) gan gryn gynnydd mewn gweithgarwch yn gysylltiedig â lefelydd a siafftiau a disodlodd y dulliau hþn yn seiliedig ar weithfeydd bas ar yr wyneb yn llwyr, wrth i rannau hygyrch o'r brigiad gael eu dihysbyddu. Er i Gwmni Haearn Dowlais agor 19 o byllau rhwng 1837 a 1857, parhaodd lefelydd i ddarparu'r prif ddull o gloddio glo a haearnfaen yn yr ardal hyd 1850, ac roeddynt yn gyfrifol am 75 y cant o'r cynhyrchiant glo o weithfeydd Dowlais. Ar ôl y dyddiad hwn, fodd bynnag, ymddengys i weithgarwch cloddio haearnfaen a glo ganolbwyntio ar nifer o byllau (siafftiau) wedi'u lleoli ar y llethrau is yn syth i'r gorllewin o'r ardal hon. Cynhwysai'r rhain Byllau 1, 2, 4, 6, a 7 Dowlais, Pyllau Pen-y-waun Fawr a Phwll Tyle Dowlais, yr oedd y ddau olaf yng nghornel ogledd-orllewinol bellaf yr ardal gymhwyso. Roedd y gwaith ailgloddio a oedd yn cael ei wneud yn yr ardal ar hyd copa'r brigiad a wynebai'r gorllewin gyda dwy lefel ychwanegol o leiaf yn cael eu gyrru i mewn i'r wyneb cloddiedig yn ystod y cyfnod yn nodwedd amlwg yn ogystal â'r gyfres o lefelydd a agorwyd ar hyd gwaelod y llethr ar ffin orllewinol yr ardal. Mae'r ardal yn cynnwys fersiynau helaeth o 'flaenau bysedd' neu 'flaenau ffan' a gysylltir yn aml â gweithfeydd â siafftiau yn hytrach na gweithfeydd lefel, ac a gyfyngir yn gyffredinol i'r brigiad gorllewinol is, uwchlaw ardal Great Dowlais Tip y cafwyd gwared ag ef erbyn hyn. Mae enghreifftiau o'r nodweddion tra amlwg hyn yn cynnwys y rhai yn gysylltiedig â Phwll Rhif 1, Pwll Rhif 2, Pwll Rhif 4, a Phwll Rhif 6, Dowlais. Er bod arolygon AO 1873 a 1879 yn dal i roi enwau ar lawer o'r lefelydd a'r pyllau, ymddengys i'r mwyafrif llethol ohonynt fynd yn segur yn fuan ar ôl hynny. Erbyn 1879, nodweddid y dull a ddefnyddid bryd hynny i arllwys gwastraff gan dramleiniau cyfochrog, mewn blociau agos at ei gilydd, a greai wynebau llyfn, gwastad; dangosir y gwrthgyferbyniad rhwng yr hen ddull o arllwys gwastraff a'r dull newydd yn glir ar wyneb y domen. Dengys argraffiad cyntaf map yr AO y dull hwn ar waith yn yr ardal i'r gogledd ac i'r de o Bwll Rhif 1 ac ym mhyllau Pen-y-waun Fawr a Thyle Dowlais; ailwampiwyd y tomenni ar y ddau safle olaf ar raddfa fawr yn ystod ail hanner yr 20fed ganrif. Roedd y dramffordd halio, nodwedd gyffredin yn nhirwedd brigiad Merthyr erbyn dechrau'r 19eg ganrif, yn rhan bwysig o'r gweithfeydd, a chaniatâi i feintiau cynyddol o haearnfaen a glo gael eu symud i iardiau gwartheg Dowlais. Âi tramffordd halio, sef Rheilffordd Cwmni Haearn Dowlais, heibio i linell y brigiad, gan gysylltu'r gwahanol lefelydd a'r pyllau (siafftiau) â'r prif lwybrau i'r iardiau gwartheg trwy system o incleins. Mae nifer o ddarnau mawr o dramffyrdd halio, gan gynnwys yr olaf, ac incleins a ddarparwyd ar gyfer lefelydd Dowlais, a gweithfeydd Penydarren wedi goroesi yn yr ardal. Cynhwysai llwybrau eraill Reilffordd Fwynau Pant-y-Waun, a ymestynnwyd ac a ymgorfforwyd yn Rheilffordd Cwmni Haearn Dowlais tua throad y ganrif. Y brif linell yn yr ardal astudiaeth oedd Cyd-linell Taf Bargoed Rheilffyrdd Great Western a Rhymni (tua 1876). Bargodai'r llinell hon tua'r dwyrain i gilffyrdd yng Nghyffordd Fochriw a thua'r gorllewin i Gyffordd Llinellau Igam-ogam Dowlais, lle yr ymrannai, gydag un llinell yn mynd yn ei blaen i Waith Ivor, trwy'r orsaf deithwyr yn Nowlais (Cae Harris), a'r llall, trwy ddwy gyffordd bacio (Furnace Tops a Ffos-y-fran) yn mynd i Waith Dowlais. Mae cyn-gangen fwynau Rheilffordd y LNWR (a agorwyd ym 1881 ac a gaewyd ym 1937) o Gyffordd Cwmbargod, rhwng Dowlais Top a Dowlais, i Gwmbargod a Phyllau Glo Cwmbargod yn mynd trwy'r ardal. Lleolir rhan o Reilffordd Cwmni Haearn Dowlais, ynghyd ag olion gwahanol dramffyrdd ac incleins diwydiannol cysylltiedig, megis incleins Penydarren a Bargod yn Nhyle Dowlais, a thramffordd/inclein Pyllau Glo Penydarren, yn yr ardal hefyd. Erbyn diwedd y 19eg ganrif, roedd gweithfeydd brig yr ardal yn dirywio; haearnfaen ar gyfer ffwrneisi Dowlais, a oedd wedi newid i gynhyrchu dur erbyn y cyfnod hwnnw, oedd prif gynnyrch y gweithfeydd hyn, tra roedd llawer mwy o lo yn cael ei gloddio mewn mannau eraill o'r pyllau glo â siafftiau dwfn yn dyddio o ganol y 19eg ganrif a oedd wedi goroesi. Erbyn y dyddiad hwn, roedd mwyn haearn yn cael ei fewnforio o ogledd Sbaen, am nad oedd y mwyn lleol, a oedd yn llawn ffosfforws a sylffwr, yn addas mwyach ar gyfer cynhyrchu dur. O ganlyniad, gostyngodd cynhyrchiant mwyn lleol yn gyflym i'r fath raddau fel ei fod wedi dod i ben yn gyfan gwbl erbyn dechrau'r 1870au. Mae'n debyg bod y mwyafrif os nad pob un o'r pyllau a'r lefelydd yn yr ardal a ddangosir ar argraffiad cyntaf map 25 modfedd yr AO (a fapiwyd ym 1879) eisoes yn segur. Nodai tystiolaeth gartograffig ddirywiad gweithfeydd yr ardal a'r rhwydwaith trafnidiaeth cysylltiedig. Roedd y mwyafrif o'r gweithfeydd glo a mwyn haearn yn yr ardal, yn arbennig ar hyd y llethrau yn wynebu'r gogledd-orllewin uwchlaw Dowlais, yn segur erbyn y dyddiad hwn, gan gynnwys Pyllau 1, 2, 4, 6, a 7 yn ogystal â'r gweithfeydd haearnfaen (2il argraffiad map yr AO, 1905). Mae pyllau Pen-y-waun Fawr a phwll Tyle Dowlais yn eithriad posibl lle y gall y ffaith bod cledrau tramffordd yn dal i'w cael nodi bod rhywfaint o weithgarwch cloddio yn parhau yno. Roedd y mwyafrif o'r mân dramffyrdd halio wedi'u dileu, fodd bynnag, ymddengys fod cledrau wedi'u gosod ar brif Dramffordd Cwmni Haearn Dowlais a gysylltai'r gwaith yn Nowlais â Phyllau Cwm Bargod a'r inclein i Byllau Penydarren (HLCA 031). |
|
Ffynonellau | |
Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag
Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y
cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk
neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk
|