Disgrifio Nodweddian
Tirweddau Hanesyddol |
|
HLCA 038 Mountain Hare Anheddiad diwydiannol bach o resi terasog unigol a datblygiadau strimynnog yn gysylltiedig â gweithfeydd cloddio glo a haearnfaen gerllaw; wedi'i leoli gerllaw coridor tramffyrdd/rheilffyrdd.
|
|
Crynodeb Anheddiad diwydiannol o ffyrdd a datblygiadau strimynnog ar wahân i'r dwyrain o Dwynyrodyn. Cefndir Hanesyddol Mae ardal dirwedd hanesyddol Mountain Hare yn cynnwys anheddiad bach a adeiladwyd i ddechrau ar gwr y Tir Comin ac ar dir cyfagos a oedd yn eiddo i Gwmni Haearn Penydarren, ac yn rhan o ddatblygiad strimynnog gwasgaredig a elwid yn Benyrheol-Merthyr a fodolai erbyn 1814. Erbyn 1850 cynhwysai Mountain Hare wasgariad bach o fythynnod a Rhesi Diwydiannol ar ffurf L, ar hyd Penyrheol Road ac yn cynnwys Mardy Street, wrth gyffordd y lonydd i'r Tir Comin; hy llwybrau i Incline Top, Penydarren, Long Town, a Thwynywaun. Ar ben hynny lleolid yr anheddiad yn gyfleus gerllaw tramffyrdd Cwmnïau Haearn Penydarren a Dowlais. Erbyn 1875, roedd yr anheddiad wedi ehangu yn sgîl ychwanegu rhes derasog i'r dwyrain o Mardy Street ac roedd ganddo Dafarn, sef y Mountain Hare, yr enwyd yr anheddiad diweddarach ar ei ôl. Rhwng 1898 a 1915, adeiladwyd teras arall ar hyd Pantyffin Road. Gwnaed gwaith mewnlenwi ar raddfa fach ac adeiladwyd datblygiad tai ychwanegol yn ddiweddarach, ee yn yr ardal rhwng Goatmill Road a'r A4060(C). |
|
Ffynonellau | |
Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag
Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y
cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk
neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk
|