Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Merthyr Tudful


036 Thomas Town (Dwyrain) a Phenyard


HLCA 036 Thomas Town (Dwyrain) a Phenyard 2 Estyniad trefol yn dyddio o'r 20fed ganrif o Thomas Town a adeiladwyd yn ystod y 19eg ganrif, tai cymdeithasol cynnar; nodweddion cloddiol diwydiannol tirluniedig; addysg a hamdden; parc a gerddi trefol; coffaol (cofeb Rhyfel De Affrica).

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon


(Nôl i'r map)

 

 


(Foto : GGAT Merthyr 036)

Ardal gymeriad Thomas Town (Dwyrain) a Phenyard: estyniad trefol o Thomas Town yn dyddio o'r 20fed ganrif.

Crynodeb

Estyniad trefol o anheddiad gwreiddiol Thomas Town a adeiladwyd yn ystod y 19eg ganrif. Roedd gan yr estyniad hwn a adeiladwyd yn yr 20fed ganrif gynllun grid rheolaidd ond cyfyngid arno gan y dirffurf ddiwydiannol gynharach a rhwydweithiau ffyrdd a thramffyrdd. Fe'i nodweddir gan dai cymdeithasol â chyfleusterau addysg a hamdden integredig, parciau a gerddi trefol a nodweddion coffaol megis Cylch yr Orsedd a Chofeb Rhyfel De Affrica.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal dirwedd hanesyddol Thomas Town (Dwyrain) a Phenyard yn cynnwys y datblygiad trefol yn dyddio o'r cyfnod ar ôl 1898 (hy yr 20fed ganrif), ac ailddatblygiadau o fewn yr ardal i'r dwyrain o anheddiad gwreiddiol Thomas Town a adeiladwyd yn y 19eg ganrif, ac mae'n cynnwys ardal Penyard, a ailddatblygwyd rhwng 1898 a 1915.

Cyn bod unrhyw ddatblygiadau trefol, nodweddid yr ardal gan dir amaethyddol agored, yn cynnwys yn bennaf ddaliadau Cae-Mari-Dwn (Cae Mary Dun, Degwm 1850), a The Court, rhan o ystâd William Thomas. Roedd nodweddion cloddiol diwydiannol yr ardal, a'u rhwydweithiau trafnidiaeth cysylltiedig yn rhan o ardal ehangach o weithfeydd cloddio a oedd yn gysylltiedig â Gwaith Haearn Penydarren; roedd y rhain ar waith o ddechrau'r 19eg ganrif o leiaf tan tua 1859 pan gaeodd y gwaith. Nodweddid yr ardal gan nodweddion diwydiannol, cyn troad y 19eg/20fed ganrif, erbyn 1875 nodwyd nad oedd y chwareli a'r tomenni (i'r dwyrain o Thomas Town, ar hyd Queens Road heddiw mor bell ag anheddiad diwydiannol Penyard); ac ar gwr dwyreiniol yr ardal, a gweithfeydd Pyllau Lodge (glo a haearnfaen) a Garw (haearnfaen) yn cael eu defnyddio. Roedd Pyllau Lodge a Garw wedi'u cysylltu gan dramffordd â Gwaith Haearn Penydarren i'r gogledd, a hefyd â gwaith brics ychydig o fewn Thomas Town (gorllewin; gweler HLCA 034), a enwir ar 2il argraffiad map yr AO (a ddiwygiwyd ym 1898) ac ar argraffiadau diweddarach o fapiau'r AO, ond a nodir ar fap 1875. Roedd rhandiroedd hefyd yn nodweddion bryd hynny, yn arbennig yn yr ardal i'r dwyrain o Thomas Town.

Cynlluniwyd rhan ddwyreiniol Thomas Town mewn patrwm llinellol a grid rheolaidd yn ystod y cyfnod 1905-1915, gan gynnwys y Parade, Argyle Street, Summerhill Place, Woodland Terrace a Kingsly Terrace, St Tydfil's Avenue gyda Strydoedd Morell a James yn arwain oddi wrthi. Perthynai'r tai ar hyd Queens Road i'r un cyfnod yn ogystal ag Ysgolion Queens Road, Cylch yr Orsedd gerllaw, cofeb Rhyfel De Affrica, a Pharc Thomas Town a'i Bandstand.

Arferai anheddiad Penyard, a ddangosir ar fap Degwm 1850 a Map AO 1875, gynnwys rhesi ar wahân o fythynnod diwydiannol ac i'r gorllewin Tai Harri Blawdd; ni newidiodd cynllun yr anheddiad hwn tan y cyfnod 1898-1915, pan adeiladwyd Danypark, Darren View, Coronation Street a Baden Terrace, Bragdy Dyffryn Taf ac ysgol fabanod. Er bod y tai a adeiladwyd ar ôl 1898 i raddau helaeth wedi goroesi'n gyfan hyd heddiw mae tai diweddar wedi disodli'r anheddiad cynharach a Bragdy Dyffryn Taf.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk