Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Merthyr Tudful


035 Pengarnddu


HLCA 035 Pengarnddu Coridor trafnidiaeth; ardal rheoli dwr; adeiladau domestig ac amaethyddol; anheddiad diwydiannol yn gysylltiedig â chwareli calchfaen; tir amaethyddol wedi'i wella a thir amgaeëdig ar gwr y Tir Comin; tirwedd Filwrol. Maes saethu ar gyfer gwirfoddolwyr; cysylltiadau hanesyddol.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

 


(Foto : GGAT Merthyr 035)

Ardal gymeriad Pengarnddu: rheilffyrdd mwynau a wasanaethai chwareli calchfaen.

Crynodeb

Coridor trafnidiaeth a gysylltir â'r chwareli calchfaen yn Nhwynau Gwynion, lle y cymerodd rheilffyrdd mwynau le'r llwybr ceffylau pwn yn dyddio o'r 18fed-19eg ganrif. Mae hefyd yn cynnwys olion helaeth System Draenio Rhydd Dowlais a chyn-anheddiad diwydiannol Pengarnddu, sy'n gysylltiedig â'r chwareli calchfaen gerllaw.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal dirwedd hanesyddol Pengarnddu yn cynnwys ardal o dir wedi'i led-wella y mae Rheilffordd Galchfaen Rhymni ddyddiedig c 1864 yn ffinio â hi i'r gogledd ac i'r dwyrain. Gwasanaethai'r rheilffordd chwareli Twynau-gwynion (HLCA 042), gan gysylltu'r chwareli â Gwaith Haearn Guest yn Rhymni ac fe'i cysylltwyd â'r Gwaith Haearn gan Reilffordd Fwynau Rhymni (Calchfaen) tua 1864. Âi Tramffordd Twynau Gwynion ddyddiedig 1805 i Waith Haearn Dowlais trwy'r ardal; goroesodd pont Tramffordd ddyddiedig 1805/15 tan 1984. Mae'r ardal hefyd yn cynnwys olion Rheilffordd Aberhonddu a Merthyr Tudful (Cangen Casnewydd), yn dyddio o'r cyfnod rhwng 1860 a 1865.

Mae nodweddion rheoli dwr diddorol yn dyddio o'r 19eg ganrif, hefyd wedi goroesi yn yr ardal, rhan o 'System Draenio Rhydd Dowlais' a oedd yn un helaeth: mae'r olion hyn yn cynnwys yn bennaf Lower Reservoir (Fish Pond) ac Upper Reservoir (New Pond) a ffrydiau cysylltiedig (â leinin brics a gwaith maen) a dyfrbontydd (gwaith maen), a gorsaf bwmpio o frics coch yn dyddio o'r 19eg ganrif, islaw Upper Reservoir. Adeiladwyd Lower Reservoir cyn 1850, tra bod Upper Reservoir yn dyddio o'r cyfnod rhwng 1850 a 1875.

Roedd y rhan fwyaf o'r ardal yn rhan o Ystâd Bute yn ystod y 1850au a chynhwysai fferm Blaen-Morlais. Mae'r ardal yn cynnwys anheddiad diwydiannol bach Pengarnddu, a fodolai ym 1814. Erbyn 1875, cynhwysai'r anheddiad hwn ddwy res ar wahân, yr oedd un ohonynt yn gysylltiedig ag iardiau, ar bob ochr i'r fferm a fodolai eisoes, ac ysgol i'r de-orllewin. Erbyn 1915, roedd gan yr anheddiad eglwys, sef St Michaels i'r de o'r ysgol a thafarn, ymhlith nodweddion eraill. Erbyn y 1960au roedd yr anheddiad wedi'i adael yn wag, a dim ond y fferm ac un bwthyn oedd ar ôl.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk