Disgrifio Nodweddian
Tirweddau Hanesyddol |
|
HLCA 034 Thomas Town (Gorllewin) Datblygiad diwydiannol
trefol: anheddiad llinellol gerllaw tramffordd yn cynnwys ychwanegiadau
grid llinellol rheolaidd diweddarach ar ffurf tai dosbarth canol yn bennaf;
adeiladau cyhoeddus a chrefyddol yn dyddio o'r 19eg ganrif.
|
|
Crynodeb Dechreuodd Thomas Town fel anheddiad llinellol ar ochr tramffordd yn chwarter cyntaf y 19eg ganrif, ond erbyn heddiw mae'n edrych at ei gilydd fel estyniad trefol o Ferthyr Tudful yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif. Nodweddir yr ardal gan derasau o dai crefftwyr a thai dosbarth canol sylweddol, filâu pâr ac ar wahân, ac adeiladau cyhoeddus megis Ysbyty Sant Tudful a Thloty'r Undeb. Erbyn hyn mae'r rhan fwyaf o'r ardal wedi'i dynodi fel Ardal Gadwraeth. Cefndir Hanesyddol Dechreuodd Thomas Town (Gorllewin) ddatblygu'n dref pan adeiladwyd bythynnod terasog diwydiannol cynnar yn Cobden Place, ar hyd ochr ddwyreiniol Tramroad Side (hy Tramffordd Penydarren HLCA 019) erbyn 1814, ond mae'r rhan fwyaf o'r anheddiad yn perthyn i ail hanner y 19eg ganrif. Rhwng 1836 a 1850, ni newidiodd yr ardal o gwbl. Roedd Capel Annibynnol Adulam a'r rhesi terasog o fythynnod i'r de ar hyd Tramroad Side North, gan gynnwys Cobden Place i gyd yn eu lle cyn 1836, tra dangosai tystiolaeth gartograffig yn dyddio o'r cyfnod hwn safleoedd arfaethedig y Tloty Newydd a'r fynwent Newydd i'r gogledd gyferbyn â Chapel y Methodistiaid Cymreig ym Mhontmorlais. Adeiladwyd yr anheddiad yn Thomas Town yn ystod y cyfnod 1851-56. Dengys tystiolaeth gartograffig (argraffiad 1af map 12 modfedd yr AO dyddiedig 1876) yr ymestynnai terasau ar hyd Tramroad Side North i'r gogledd o Fynwent Pontmorlais. Cynhwysai'r ardal batrwm grid llinellol o strydoedd terasog: strydoedd terasog cyfochrog Strydoedd Thomas a Zion a Bryn-teg Terrace, yn ymestyn o'r gogledd i'r de fwy neu lai, ynghyd â Church Street (sy'n nodedig am ei chapeli a'i synagog), New Castle Street a'i chapel, Alma Row (Alma Street) i gyd yn ymestyn o'r dwyrain i'r gorllewin. Roedd filâu pâr ac ar wahân mawr, bob un ohonynt wedi'i osod o fewn ei gerddi sylweddol ei hun, wedi'u hadeiladu ar y bryn i'r dwyrain o'r craidd terasog, a chynhwysent Primrosehill House, Filâu Bryn-heulog, Springfield Villa a Bryn-teg House. Roedd Tloty'r Undeb ar ffurf croes, a'i fynedfa drawiadol yn eu lle erbyn 1876 yn ogystal â Mynwent Pontmorlais a'i chapel angladdol a'r Ysbyty gerllaw. Mae tai'r ardal (y mae llawer ohonynt yn adeiladau rhestredig) yn adeiladau deulawr, wedi'u rendro a chanddynt fanylion clasurol syml ac mae rhyw undod yn perthyn iddynt o ran eu cyfansoddiad. Mae'r filâu mawr, megis y Rectory, Sunny Bank Villa, Bryn-heuolg a Springfield (bob un yn rhestredig gradd II), yn adeiladau diddorol yn yr arddull Raglywiaethol a chanddynt yn ddieithriad wynebau blaen wedi'u plastro a thoeau talcennog. Mae adeiladau amlwg yr ardal yn cynnwys Ysbyty Sant Tudful, Upper Thomas Street (rhestredig gradd II), a adeiladwyd fel Tloty'r Undeb ym 1853 gan Aickin a Capes o Lundain, y mae ei brif floc mewn arddull addurnedig yn ddyddiedig 1870. O fewn y blaengwrt ceir cerflun efydd o Syr WT Lewis, Arglwydd Merthyr (Thomas Brock 1898; rhestredig gradd II). Adeiladwyd rhesi mawr o frics melyn i'r gogledd fel ysbyty'r tloty rhwng 1896-1900 gan EA Johnson. Mae'r ardal hefyd yn cynnwys adeiladau crefyddol pwysig megis y synagog hynaf a adeiladwyd i'r pwrpas yng Nghymru yn dyddio o 1872-5 mewn arddull Gothig a symleiddiwyd ym mhen Church Street a Chapel Shiloh o eiddo'r Wesleaid Cymreig, hefyd yn Church Street, yn yr arddull Neo-Romanésg (1853, y credir iddo gael ei adeiladu gan IK Brunel). |
|
Ffynonellau | |
Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag
Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y
cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk
neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk
|