Disgrifio Nodweddian
Tirweddau Hanesyddol |
|
HLCA 033 Tir Comin Heb ei Wella Garth Fawr Tirwedd greiriol
a allai fod o bwys cenedlaethol: aneddiadau cynhanesyddol creiriol ac
olion cysylltiedig; diwydiannol: nodweddion cloddiol (chwarel a lefelydd
posibl).
|
|
Crynodeb Tirwedd gynhanesyddol greiriol bwysig, a nodweddir gan aneddiadau yn dyddio o ddiwedd y cyfnod cynhanesyddol, ar ffurf cytiau crwn agored, a charneddau claddu cynharach hefyd. Cefndir Hanesyddol Mae ardal dirwedd hanesyddol Tir Comin Heb ei Wella Garth Fawr yn ardal ar wahân o dir a amgaewyd yn gymharol ddiweddar (ffensys pyst a gwifrau yn dyddio o ganol yr 20fed ganrif). Mae'r ardal yn cynnwys porfa fynydd wedi'i lled-wella. Mae'r ardal yn dirwedd greiriol bwysig yn dyddio o ddiwedd y cyfnod cynhanesyddol (yr Oes Haearn/y Cyfnod Brythonaidd-Rufeinig) sy'n cynnwys nodweddion angladdol cynharach. Mae'r nodweddion creiriol sy'n sefyll yn ffurfio grwp ar wahân ac maent yn dirwedd gymharol brin, a phwysig o'r herwydd, o fewn Tirwedd Hanesyddol Merthyr Tudful yn gyffredinol, o ran y ffaith eu bod wedi goroesi/eu cyflwr, y cyfnod a'u gwerth fel grwp. Mae'r nodweddion tirwedd hyn yn cynnig potensial pwysig ar gyfer cyfleu natur aneddiadau ucheldirol cynnar yn yr ardal; cyfle a gollwyd i raddau helaeth mewn mannau eraill o fewn y dirwedd hanesyddol ers i'r dirwedd gael ei thrawsnewid yn ystod y cyfnod diwydiannol. |
|
Ffynonellau | |
Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag
Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y
cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk
neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk
|