Disgrifio Nodweddian
Tirweddau Hanesyddol |
|
HLCA 032 Golchfa Cwm Bargod Fe'i defnyddid fel golchfa
lo: gwastraff a lagynau; olion diwydiannol: safle cloddiol yn cynnwys
gwaith glo a phyllau, ty injan a gefail; coridor trafnidiaeth: rheilffordd
a thramffordd a nodweddion cysylltiedig (safle gorsaf a blwch signalau),
safle nodwedd rheoli dwr (cronfa ddwr), safle strwythurau domestig (Railway
Terrace).
|
|
Crynodeb Ardal ddiwydiannol fodern yn gorchuddio safle Pwll Glo Cwm Bargod, ac a nodweddir gan domenni sbwriel a lagynau helaeth, a nodweddion rheilffordd sydd wedi goroesi ar hyd ei chwr gogleddol. Dilewyd y mwyafrif o'r nodweddion hanesyddol eraill yn yr ardal at ei gilydd gan y defnydd parhaus sydd wedi'i wneud o'r ardal at ddibenion diwydiannol. Cefndir Hanesyddol Yn ei hanfod mae ardal dirwedd hanesyddol Golchfa Cwm Bargod yn cynnwys safle'r olchfa a sefydlwyd yn ystod ail hanner yr 20fed ganrif a'i domenni a'i lagynau helaeth. Dileodd neu claddodd yr olchfa y mwyafrif o'r olion yn gysylltiedig â gweithgarwch cloddio a thrafnidiaeth, a arferai fodoli yn yr ardal. Cysylltir y nodweddion sydd wedi goroesi â Chyd-Linell Taf Bargoed Rheilffordd y Great Western a Rhymni (c 1876), a redai tua'r dwyrain i gilffyrdd wrth Gyffordd Fochriw a thua'r gorllewin i Gyffordd Llinellau Igam-ogam Dowlais, mae rhan o'r llinell yn dal i gael ei defnyddio fel llinell fwynau ar gyfer yr olchfa. Ymhlith rheilffyrdd eraill yn yr ardal roedd cyn-linell leol y LNWR a ddefnyddid i gludo mwynau (fe'i hagorwyd ym 1881, fe'i caewyd ym 1937) o Gyffordd Cwmbargod, rhwng Dowlais Top a Dowlais, i Gwmbargod a Phyllau Glo Cwmbargod, a lleolir olion gwahanol dramffyrdd diwydiannol cysylltiedig yn yr ardal. Parhawyd i gloddio haearnfaen a glo yn arbennig trwy gydol y 19eg ganrif, gyda lefel y gweithgarwch cloddio yn amrywio yn ôl y galw economaidd. Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, profodd y diwydiannau cloddiol gyfnod o ddirywiad; erbyn diwedd 1924, roedd Gwaith Glo Cwmbargod, a'r mwyafrif o'r pyllau glo a oedd ar ôl wedi'u cau. |
|
Ffynonellau | |
Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag
Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y
cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk
neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk
|