Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Merthyr Tudful


031 Tir Comin Merthyr Tudful, Canolog


HLCA 031 Tir Comin Merthyr Tudful, Canolog Tirwedd ddiwydiannol o bwys cenedlaethol; nodweddion rheoli dwr a nodweddion cloddiol yn gysylltiedig â Gweithfeydd Haearn Dowlais a Phenydarren; aneddiadau ucheldirol diwydiannol ac ôl-ganoloesol; rhwydweithiau trafnidiaeth -rheilffyrdd diwydiannol a chyhoeddus; ardal o dir comin a newidiwyd gan ddatblygiadau diwydiannol.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon


(Nôl i'r map)

 

 


(Foto : GGAT Merthyr 031)

Ardal gymeriad Tir Comin Merthyr Tudful, Canolog: ardal o nodweddion rheoli dwr a ddechreuwyd ym 1818.

Crynodeb

Cysylltir ardal ganolog Tir Comin Merthyr Tudful yn gryf â datblygiad diwydiant haearn Merthyr Tudful, ac yn wir Dde Cymru. Fe'i nodweddir yn bennaf gan nodweddion rheoli dŵr a gysylltir â System Draenio Rhydd Dowlais, sy'n neilltuo'r dirwedd hon fel un sydd o bwys unigryw o fewn Tirwedd Hanesyddol Merthyr Tudful, ac o bwys cenedlaethol hefyd. Mae'r ardal hefyd yn cynnwys nodweddion cloddiol a rhwydweithiau trafnidiaeth.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal dirwedd hanesyddol Tir Comin Merthyr Tudful, Canolog yn dirwedd o bwys cenedlaethol a rhyngwladol a grëwyd gan gynnydd mewn gweithgarwch cloddio glo a haearnfaen o ail hanner y 18fed ganrif. Mae'r ardal yn uniongyrchol gysylltiedig ag adfywiad y diwydiant haearn, a datblygodd yn sgîl cyflwyno proses bwdlo Cort, a'i gwnaeth yn bosibl i ddefnyddio cols i doddi haearn, yn lle'r golosg traddodiadol. Daeth gweithfeydd cloddio glo a haearnfaen yn yr ardal o dan reolaeth uniongyrchol cwmnïau haearn yr ardal, hy Dowlais ac i raddau llai Penydarren; yn nwylo perchenogion y Cwmnïau Gwaith Haearn roedd y prydlesau mwynau.

Adeiladwyd System Draenio Rhydd Dowlais, system ddyfeisgar o gronfeydd dwr a ffrydiau yn dyddio'n rhannol o tua 1818, ac ychwanegwyd ati dros gyfnod o dros saith deg o flynyddoedd i gyflenwi dwr i byllau glo a gwaith haearn Dowlais. Defnyddiai'r system, a gyflenwid trwy ddisgyrchiant, rwydwaith helaeth o ffrydiau a chronfeydd dwr ar wyneb y ddaear a sianeli tanddaearol ar ffurf U, a adeiladwyd yn ôl 'patrwm Dowlais' o fewn gwahanol lefelydd, megis y Brew House Level, a Buxton's neu Purple Level. Roedd yr olaf yn dal i fodoli ac roedd yn dal i fod mewn cyflwr da mor ddiweddar â'r 1960au. Draeniai'r system amrywiaeth o lefelydd glo gan gynnwys gwythiennau Pedair Troedfedd Isaf ardal Cwm-Bargod, Trecati a Threhir a'r Gwythiennau Pedair Troedfedd Uchaf ac Isaf, Big Coal, Red a Spotted yn ardaloedd Pantywaun, Rhaslas, a South Tunnel. Draeniai yn y pen draw i bwll dwr ym Mhwll Glo Tyle Dowlais, lle y gellid pwmpio'r dwr yn ôl i'r system ar yr wyneb neu ganiatáu iddo ddraenio i lefelau llenwi ffwrneisi Penydarren (Owen 1977, 67-8).

Y brif linell yn yr ardal gymeriad oedd Cyd-Linell Taf Bargod Rheilffyrdd y Great Western a Rhymni (c 1876), a fargodai tua'r dwyrain i gilffyrdd wrth gyffordd Fochriw a thua'r gorllewin i Gyffordd Llinellau Igam-ogam Dowlais. Ymrannai'r Llinell wedyn, âi'r naill linell yn ei blaen i Waith Ivor, trwy'r orsaf deithwyr yn Nowlais (Cae Harris), âi'r llall, trwy ddwy gyffordd bacio (Furnace Tops a Ffos-y-fran) i Waith Dowlais. Lleolid cangen fwynau Rheilffordd y LNWR (agorodd ym 1881, caeodd ym 1937) o Gyffordd Cwmbargoed i Byllau Glo Cwmbargoed yn yr ardal. Cynhwysai hefyd ran o Reilffordd Cwmni Haearn Dowlais, ynghyd ag olion gwahanol dramffyrdd ac incleins diwydiannol cysylltiedig, megis incleins Penydarren a Bargod yn Nhyle Dowlais, a'r dramffordd a'r inclein i Byllau Glo Penydarren.

Darparai gweithfeydd glo a haearnfaen yr ardal (a leolir at ei gilydd yn Ardaloedd HLCA 039 a 078 gerllaw) gryn dipyn o ddeunydd crai ar gyfer Gwaith Haearn Dowlais yn arbennig. Gweithfeydd cloddio ar yr wyneb a geid yn yr ardal yn bennaf. I bob pwrpas cynhwysai hyn gyfuniad o weithfeydd stripio lleiniau (a oedd ar waith yn Nhyle Dowlais tan ganol y 19eg ganrif), pyllau glo bach yn debyg i byllau glo coron, a welir yng nghyffiniau anheddiad Gweithwyr haearn Ffos-y-fran, a lle y caniatâi'r topograffi weithfeydd cloddio wedi'u gyrru i mewn i'r llethrau. Cofnodir nifer o lefelydd a nodweddion eraill a gysylltir â'r cyfnod hwn yn hanner gogleddol yr ardal dirwedd hanesyddol.

Parhawyd i gloddio haearnfaen a glo yn arbennig trwy gydol y 19eg ganrif, gyda lefel y gweithgarwch cloddio yn amrywio yn ôl y galw economaidd. Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, profodd y diwydiannau cloddiol yn yr ardal gyfnod o ddirywiad, ac roedd y mwyafrif o fwyngloddiau'r ardal wedi'u cau erbyn diwedd y 1920au.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk