Disgrifio Nodweddian
Tirweddau Hanesyddol |
|
HLCA 030 Pantcadifor, Rhyd-y-Bedd a Chaeracca Anheddiad
diwydiannol dinod: datblygiadau strimynnog cynnar a therasau rheolaidd
diweddarach; mynwent bwysig; coridor trafnidiaeth (rheilffordd); cysylltiadau
hanesyddol.
|
|
Crynodeb Anheddiad min ffordd yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif i ddechrau'r 19eg ganrif gydag elfennau diweddarach, a gysylltir â chwareli lleol. Y fynwent yn dyddio o ganol y 19eg ganrif a dau gapel yw nodweddion amlycaf yr anheddiad, sydd hefyd yn cynnwys erbyn hyn dai cymdeithasol a thai uwchraddol yn dyddio o'r 20fed ganrif. Cefndir Hanesyddol Dechreuodd ardal dirwedd hanesyddol Pantcadifor, Rhyd-y-Bedd a Chaeracca fel anheddiad min ffordd bach i chwarelwyr. Erbyn y 1870au, roedd yr anheddiad wedi tyfu i'r gogledd ac i'r de gan ymgyfuno yn y pen draw â Dowlais. Ymddengys yr anheddiad gwreiddiol yn y Pant ym 1799 fel anheddiad bach wrth gyffordd y ffyrdd o Benydarren a Dowlais i Aberhonddu. Ceir anheddiad cnewyllol o amgylch Tafarn Pant-Cad-Ifor (c 1740), a mân ddatblygiadau ar hyd y ffordd i'r de i Nant Morlais (Dingle) a Dowlais, gan gynnwys ffermydd Cae'r-acca a Chwm Rhyd-y-bedd. Erbyn 1814 roedd anheddiad bach wedi'i sefydlu ym Mhantysgallog, gan gynnwys Pantysgallog House, ychydig i'r de o'r anheddiad gwreiddiol ym Mhantcadifor, tra roedd rhes o fythynnod i'r gorllewin (Tair Efail ar Fap Degwm 1850). Ni newidiodd yr anheddiad o gwbl yn ystod y cyfnod hyd at 1850, ar wahân i'r ffaith i gyfliniad Pant Road i'r de gael ei newid gryn dipyn ac i'r fynwent amlwg gael ei sefydlu ym 1849 ar gyfer dioddefwyr yr ail epidemig colera i daro Merthyr Tudful (cafwyd y cyntaf ym 1832). Lleolid Mynwent y Pant a'i dau gapel angladdol, un anghydffurfiol, un yn perthyn i Eglwys Loegr, ar dir a arferai fod yn rhan o Castle Farm. Roedd Ysbyty Twymyn Dowlais a leolid ychydig i'r de o Bantysgallog wedi'i adeiladu ym 1869 ar gyfer Bwrdd Iechyd Merthyr Tudful. Defnyddid yr ysbyty hwn a oedd wedi'i adeiladu o bren ac a gynhwysai 32 o welyau dros dro yn ystod epidemigion. Ychydig i'r gogledd-ddwyrain o Pant Road roedd Cangen Dowlais o Reilffordd Aberhonddu a Merthyr Tudful, a adeiladwyd ym 1864/65, a chaban signalau. Datblygodd yr anheddiad mewn strimynnau ac adeiladwyd datblygiadau min ffordd ar ffurf rhesi o dai gweithwyr diwydiannol ym Mhantysgallog ac ym Mhant-Cerddinen i'r de o Chwarel Bryniau erbyn 1875. Ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, roedd yr anheddiad wedi tyfu i gynnwys Strydoedd King a Queen yn yr ardal rhwng Pant Road a'r estyniad o'r LNWR i Ferthyr Tudful (c 1868). Roedd terasau ychwanegol wedi'u hadeiladu ar ochr orllewinol y Pant (New Houses), tra roedd ardal newydd wedi'i sefydlu i'r dwyrain o Reilffordd Aberhonddu a Merthyr Tudful gan gynnwys Caracas Terrace, a chynllun grid Strydoedd Edward a Gwladys. Erbyn y dyddiad hwn cynhwysai'r anheddiad, a wasanaethid gan arhosfa ar Reilffordd BM a gorsaf ar linell y LNWR, ysgolion, swyddfa bost, ac eglwys, sef Christ Church, a golchdy hefyd. |
|
Ffynonellau | |
Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag
Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y
cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk
neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk
|