Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Merthyr Tudful


026 Cilfach-yr-Encil


HLCA 026 Cilfach-yr-Encil Ardal sydd wedi goroesi o gaeau amaethyddol bach afreolaidd datblygedig cynddiwydiannol heb fawr ddim dylanwad diwydiannol arni.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon


(Nôl i'r map)

 

 


(Foto : GGAT Merthyr 026)

Ardal gymeriad Cilfach-yr-Encil: tirwedd amaethyddol o gaeau afreolaidd.

Crynodeb

Tirwedd amaethyddol a nodweddir gan gaeau afreolaidd datblygedig, yn cynrychioli tresmasiadau ôl-ganoloesol ar y llethrau uchaf.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal dirwedd hanesyddol Cilfach-yr-encil yn ardal fach ond ar wahân o gaeau hirsgwar a lled-hirsgwar datblygedig ond rheolaidd a leolir ar war llai serth y bryn, uwchlaw llawr y dyffryn. Mae'r ardal yn cynrychioli gweithgarwch tresmasu yn dyddio o'r cyfnod ôl-ganoloesol a gwblhawyd erbyn y 1820au. Ymddangosai'r daliad a'r fferm ar fapiau o 1826 ymlaen, er bod y daliad yn ôl pob tebyg yn dyddio o gyfnod cynharach, gan ddyddio o bosibl o'r cyfnod pan gafwyd cyfnod segur mewn amaethyddiaeth ucheldirol o ganlyniad i Ryfeloedd Napoleon. Roedd y fferm yn eiddo i ryw John Llewellyn a Mrs Ann Robert yn ystod blynyddoedd canol y 19eg ganrif. Ni newidiodd patrwm caeau'r ardal fawr ddim ar wahân i ychydig o waith isrannu. Erbyn dechrau'r 1960au, os nad ynghynt, roedd fferm Gilfach-yr-encil yn anghyfannedd.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk