Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Merthyr Tudful


025 Nantyrodyn a Gweithfeydd Cloddio Bwllfa


HLCA 025 Nantyrodyn a Gweithfeydd Cloddio Bwllfa Gweithgarwch amgáu ac anheddu (adfeiliedig) ar raddfa fach yn dyddio o'r cyfnod ôl-ganoloesol; tirwedd ddiwydiannol gloddiol; lefelydd prawf a glo; coridor lonydd amaethyddol/diwydiannol/tramffyrdd posibl ac inclein; Coetir Hynafol.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon


(Nôl i'r map)

 


(Foto : GGAT Merthyr 025)

Ardal gymeriad Nantyrodyn a Gweithfeydd Cloddio'r Bwllfa: tirwedd ddiwydiannol o weithfeydd cloddio glo, ond yn cynnwys ardaloedd creiriol o dir diffaith amgaeëdig a choetir.

Crynodeb

Tirwedd ddiwydiannol yn cynnwys nodweddion cloddiol yn dyddio o ail hanner y 19eg ganrif ac a gysylltir â Chwmni Haearn Plymouth. Mae olion diwydiannol yn cynnwys gweithfeydd glo, chwarel, incleins a baril dirwyn. Ceir hefyd ardaloedd creiriol o gyn-dir diffaith a choetir a amgaewyd, ac ardaloedd y bu pobl yn tresmasu arnynt ar raddfa fach yn y cyfnod ôl-ganoloesol.

Cefndir Hanesyddol

Cynhwysai ardal dirwedd hanesyddol Nantyrodyn a Gweithfeydd Cloddio'r Bwllfa ddarn amgaeëdig tra choediog o dir amaethyddol gwael yn wynebu'r de-orllewin a elwid y Graig. Bu pobl yn tresmasu ar gwr gorllewinol is yr ardal hon yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol gerllaw'r lôn, sy'n cysylltu anheddiad Dyffryn â'r mynydd agored. Ymddengys fod yr enw Nant-yr-Odyn yn nodi safle odyn yn y cyffiniau. Dilynwyd y gweithgarwch tresmasu, a gynrychiolir gan ddau fwthyn a gerddi ar ddeupen dôl amgaeëdig hir gyda thir âr ymhellach i lawr y llethr i'r gorllewin, ar fapiau dyddiedig 1813, 1826 a 1832. Erbyn 1850, mae'r ddau fwthyn yn eiddo i ryw Thomas Thomas a gelwir yr un uchaf yn Bulca (Balka, 1875: Bwllfa). Darparwyd rhagor o fanylion erbyn map AO 1875, a ddangosai ddaliad bach arall yn dwyn yr enw Nant-yr-Odyn, a gynhwysai fwthyn a llain fach o dir âr a dwy ffynnon gerllaw yn agos i ben uchaf dyffryn nant Nant-yr-Odyn. Er iddi gael ei hamgáu a'i draenio rywfaint, ardal o goetir a thir pori garw cymysg ydoedd o hyd o ran ei golwg, er bod daliadau'r ardal i gyd yn anghyfannedd erbyn dechrau'r 1960au.

Ymddengys fod rhywfaint o ddefnydd yn cael ei wneud o'r ardal at ddibenion diwydiannol o ddechrau'r 19eg ganrif, ac roedd nodweddion i'w gweld ym 1826. Prydleswyd yr ardal ym 1850 i Anthony Hill perchennog Gwaith Haearn Plymouth. Rhwng 1850 a 1875, newidiodd yr ardal yn aruthrol; adeiladwyd inclein fawr, mewn dwy ran, ar hyd ffin ogledd-ddwyreiniol yr ardal. Cysylltai'r nodwedd hon lefelydd glo ar Fynydd Cilfach-yr-encil ag odynau cols i'r gogledd-ddwyrain o Ffwrneisi Dyffryn; a gwasanaethai lefelydd haearnfaen a glo ychwanegol a leolid ar hyd-ddi. Lleolid tþ injan ar ben rhan isaf yr inclein erbyn y dyddiad hwn. Gwasanaethid nodwedd arall o ddiddordeb, sef Chwarel Troed-y-Rhiw, gan inclein, a âi igam-ogam i lawr i Dyffryn Row a safle gwaith haearn Dyffryn. Cynhwysai nodweddion eraill nifer fawr o lonydd (neu dramffyrdd), a groesai'r ardal o amgylch Balka (Bwllfa), mân weithfeydd draenio a nifer o fân nodweddion diwydiannol; siafft brawf, lefel lo a ffordd aer.

Erbyn 1901 roedd lefelydd yr ardal yn segur a disgrifir yr inclein gysylltiedig fel 'hen'; tra roedd inclein newydd yn syth i Byllau Glo South Dyffryn, wedi disodli'r inclein chwarel gynharach.

Nodweddir y cyfnod canlynol yn arwain at 1915 yn bennaf gan y penderfyniad i ailgychwyn cloddio glo o ganlyniad i'r Rhyfel Byd Cyntaf. Adeiladwyd inclein newydd yn ystod y cyfnod hwn rhwng un o lefelydd Bwllfa a'r rheilffordd fwynau a wasanaethai Byllau Glo'r Graig (Rhif 2) a South Dyffryn, tra roedd lefel a ffordd aer ychwanegol i'w gweld yn yr ardal i'r de ac i'r dwyrain o fwthyn Balca. Yn ystod y cyfnod canlynol ehangwyd lefelydd Bwllfa a chrëwyd tomenni sylweddol, nodweddion gweledol tra amlwg uwchlaw Pentrebach. Dangosai lefel lo i'r de o Chwarel Troed-y-Rhiw, a weithid yn gyson o ganol y 1870au o leiaf, dystiolaeth ei bod wedi'i hailweithio yn ystod y cyfnod; roedd y lefel, yn debyg i'r un yn Bwllfa, wedi'i chysylltu gan inclein â llinell fwynau Pyllau Glo South Dyffryn.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk