Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Merthyr Tudful


024 Graweth a Phen-y-Lan


HLCA 024 Graweth a Phen-y-Lan Ardal sydd wedi goroesi o gaeau amaethyddol bach afreolaidd datblygedig yn dyddio o'r cyfnod ôl-ganoloesol lle y bu dylanwad datblygiadau diwydiannol yn gymharol fach (glo a mwyn haearn).

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon


(Nôl i'r map)

 


(Foto : GGAT Merthyr 024)

Ardal gymeriad Graweth a Phen-y-Lan: tirwedd amaethyddol o gaeau afreolaidd â ffiniau traddodiadol a ffermydd cysylltiedig.

Crynodeb

Tirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol, a nodweddir gan gaeau afreolaidd datblygedig â ffiniau traddodiadol a daliadau amaethyddol cysylltiedig. Mae'r ffermydd yn anghyfannedd bellach ac yn adfeiliedig. Mae'r ardal hon yn hynod am fod nodweddion diwydiannol yn gymharol brin, er y ceir rhai ar y llethrau mwy serth ychydig uwchlaw llawr y dyffryn.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal dirwedd hanesyddol Graweth a Phen-y-lan yn cynnwys dau ddaliad ôl-ganoloesol cyfagos, a sefydlwyd o bosibl yn y cyfnod canoloesol, sydd wedi goroesi yn gyfan fwy neu lai trwy'r oes ddiwydiannol.

Mae'r cyfeiriad cartograffig cyntaf at Ben-y-lan ym 1814, ni ddangosir Graweth, er bod y ddau yn ymddangos ar fapiau diweddarach (ee llun Tirfesurwr AO 1826). Perthynai fferm Graweth (Grawarth) i ryw John Llewellyn (map degwm 1850) ac fe'i prydleswyd i Anthony Hill, perchennog Gwaith Haearn Plymouth. Mae'r un ffynhonnell yn nodi mai Jane Taylor yw perchennog Penylan. Erbyn y dyddiad hwn nodweddid y ddau ddaliad gan batrwm caeau datblygedig, a gynhwysai gaeau bach afreolaidd eu siâp. Mae'r patrwm caeau ar fferm Graweth yn awgrymu bod ardal graidd o gaeau o amgylch y fferm, a ymestynnwyd yn ddiweddarach i'r gogledd ac i'r dwyrain gan gwmpasu ardaloedd o 'Dir diffaith' neu goetir/porfa fynydd a arferai fod yn agored, a awgrymir gan yr enwau caeau 'Coedcae' a 'Graig, ac ymestynnai lonydd o'r fferm i'r mynydd agored y tu hwnt. Ymddengys fod y patrwm caeau wedi datblygu yn yr un ffordd ym Mhen-y-lan, lle y lleolid y fferm yng nghanol ei daliad gyda 'Waun' i lawr y llethr i'r de-orllewin, a 'Choedcae' i fyny'r llethr i'r gogledd-ddwyrain. Ni newidiodd patrwm caeau'r ardal fawr ddim yn y cyfamser, ac roedd mân newidiadau, megis isrannu Coedcae, wedi'u cwblhau erbyn 1875, ac roedd ffaldau wedi'u hychwanegu ar ffin y tir comin. Strwythurau yn dyddio o ddechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol yw'r ffermydd. Arferent fod yn fwy nodweddiadol o'r ardal ac maent yn arddangos nodweddion brodorol diddorol; mae Graweth er enghraifft yn dy hir o'r math a nodweddir gan simnai â'i chefn at y fynedfa, ac mae ganddo dramwyfa groes allanol a grisiau yn y lle tân.

Erbyn 1875, ychwanegwyd nodweddion diwydiannol at nodweddion amaethyddol a domestig megis y ffynnon a'r gorlan ym Mhen-y-lan ar gyrion deheuol a dwyreiniol yr ardal amgaeëdig, lefelydd (glo a haearnfaen) a ffyrdd aer yn bennaf, a lôn neu dramffordd o odyn yn Nant-yr-Odyn gerllaw (HLCA 025). Disodlwyd y lôn olaf ar ôl 1901 gan dramffordd ar oleddf yn arwain o lefel lo a thomenni cysylltiedig (ffordd aer gerllaw) i reilffordd fwynau, gerllaw Pwll Glo Graig a sefydlwyd yn ddiweddarach. Roedd y lefel a'r dramffordd, nodweddion sy'n gysylltiedig â chyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf pan aed ati o'r newydd i weithio cronfeydd glo'r ardal, yn segur erbyn 1922.

Cynrychiolir gweithgarwch diwydiannol diweddarach, yn dyddio o rywbryd cyn 1962, gan grwp o lefelydd i'r gogledd o Ben-y-lan ychydig y tu mewn i ffin y tir comin, yr eir ato o'r dwyrain ar draws y tir comin. Erbyn y 1960au, roedd ffermydd yr ardal yn ddieithriad yn anghyfannedd.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk