Disgrifio Nodweddian
Tirweddau Hanesyddol |
|
HLCA 020 Pentrebach Anheddiad diwydiannol: rhesi diwydiannol
unigol yn dyddio o'r cyfnod cyn y 1850au a datblygiadau yn seiliedig ar
y pwll glo yn dyddio o ddechrau'r 20fed ganrif; nodweddion trafnidiaeth
a rheoli dwr, preswylfa meistr haearn.
|
|
Crynodeb Anheddiad diwydiannol a gysylltir â chwmni Haearn Plymouth. Ymddengys iddo ddechrau yn y 18fed ganrif fel anheddiad min ffordd bach. Ychwanegwyd dau anheddiad bach arall cyn canol y 19eg ganrif, ac ar ôl hynny fe'u hymestynnwyd a'u cyfuno yn y pen draw trwy adeiladu terasau llinellol. Mae enghreifftiau o dai yn dyddio o'r cyfod cyn 1850 i'w gweld o hyd yn yr ardal, er y'i nodweddir bellach yn fwy gan dai diwydiannol yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif, a thai cymdeithasol yn dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif. Cefndir Hanesyddol Ymddengys i ardal dirwedd hanesyddol Pentrebach ddechrau yn ystod y 18fed ganrif fel anheddiad min ffordd bach: yn cynnwys rhyw bum adeilad a thollborth, a leolid wrth y gyffordd rhwng Tollffordd Plymouth dyddiedig 1771 a lôn yn arwain i'r dwyrain i'r mynydd agored. Cliriwyd yr ardal hon, sy'n cynrychioli craidd cynnar Pentrebach, ar gyfer datblygiadau diwydiannol/manwerthu modern, tra lleolir yr anheddiad sydd wedi goroesi, sydd wedi'i ganoli ar Dai-bach, ymhellach i'r de. Rhwng 1813-1832, ffurfiai'r ardal dri anheddiad bach ar wahân ym Mhentrebach Isaf, Tai-bach a Dyffryn ar yr ochr ddwyreiniol i Gamlas Gyflenwi Plymouth. Yn wreiddiol ffurfiai Tai Bach anheddiad cnewyllol, bach gerllaw camlas gyflenwi Plymouth. Bryd hynny ceid caeau agored rhwng aneddiadau Pentrebach (hy Pentrebach Isaf) a Dyffryn ac anheddiad Tai-bach. Cynhwysai Tai-bach Resi wedi'u trefnu ar ffurf L a leolid i'r gorllewin o'r ffordd i Waith Haearn Pentrebach. Cynhwysai Pentrebach Isaf i'r gogledd a Dyffryn, i'r de, grwpiau o fythynnod/Rhesi, a leolid wrth y gyffordd â lonydd a arweiniai i'r dwyrain, yn achos Dyffryn i'r mynydd agored a Thwynywaun y tu hwnt. Dengys tystiolaeth gartograffig fod melin wedi'i lleoli yn Nyffryn ym 1813. Erbyn canol y 19eg ganrif roedd Tai-bach yn rhan o ystâd Robert Henry Clive, tra perthynai aneddiadau Pentrebach Isaf a Dyffryn i Thomas Thomas, ac roeddynt i gyd wedi'u prydlesu i Anthony Hill o Waith Haearn Plymouth. Yn Nhai-bach roedd Rhesi terasog ychwanegol (anheddiad presennol Tai-bach) i'r de o Gamlas Gyflenwi Plymouth wedi'u hadeiladu. Bryd hynny nodweddid Pentrebach Isaf gan derasau llinellol ar hyd Brown Street a Chapel/eglwys. Erbyn 1875, roedd melin wedi'i hychwanegu ychydig i'r dwyrain o Pentrebach House a'i Borthordy, a adeiladwyd ar gyfer Anthony Hill perchennog Gwaith Haearn Plymouth. Cynhwysai anheddiad Dyffryn Resi terasog llinellol ar bob ochr i Rydfach (y mae rhan ohono i'w weld o hyd), a dwy Res fyrrach neu fythynnod wedi'u trefnu ar ongl sgwâr a rhes o adeiladau gerllaw Camlas Gyflenwi Plymouth. I'r gorllewin, ceir strwythur bach sydd wedi'i ymestyn ac wedi'i enwi ar fap 1875 fel gefail (ychydig y tu fewn i HLCA 015). Roedd rhandiroedd yn nodwedd ar bob un o'r tri anheddiad. Ni newidiodd cynllun anheddu'r ardal yn ei hanfod tan ar ôl i waith haearn Plymouth gau ym 1880. Rhwng 1898 a 1915 tyfodd Tai-bach ar raddfa fawr; gellir priodoli hyn mae'n debyg i'r ffaith bod cronfeydd glo'r ardal yn dal i gael eu cloddio ym Mhwll South Dyffryn, Lefelydd Bwllfa gerllaw, ac yn arbennig, Pwll North Dyffryn, a barhaodd ar waith tan yr Ail Ryfel Byd. Erbyn 1915 ymestynnai'r ardal drefol ar hyd Dyffryn Road o Castle Street yn y gogledd i Dyffryn yn y de, ac roedd Strydoedd Hamilton, Maestaf, Penlan a Hafod wedi'u hychwanegu. Ymfalchïai'r anheddiad bellach mewn maes chwaraeon, tafarn, Capel o eiddo'r Bedyddwyr, Ysgol Fabanod a Swyddfa Bost. Yn ystod yr un cyfnod, fodd bynnag, ni newidiodd Pentrebach Isaf a Dyffryn i bob pwrpas. Erbyn hyn ystadau tai cyngor helaeth a adeiladwyd yn yr 20fed ganrif yw elfennau amlycaf cymeriad trefol yr ardal. |
|
Ffynonellau | |
Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag
Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y
cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk
neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk
|