Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Merthyr Tudful


018 Abercanaid a Llywn-yr-Eos


HLCA 018 Abercanaid a Llwyn-yr-Eos Enghraifft bwysig sydd wedi goroesi o anheddiad diwydiannol a gynlluniwyd yn dyddio o ganol y 19eg ganrif; safle anheddiad cynnar gerllaw camlas, sef Llwyn-yr-Eos.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon


(Nôl i'r map)

 


(Foto : GGAT Merthyr 018)

Ardal gymeriad Abercanaid a Llwyn-yr-Eos: anheddiad glofaol yn dyddio o'r 19eg ganrif a nodweddir gan gynllun grid unionlin.

Crynodeb

Enghraifft bwysig sydd wedi goroesi o anheddiad yn dyddio o'r 19eg ganrif sy'n gysylltiedig â Phyllau'r Graig a Gethin, a ddatblygwyd yn wreiddiol erbyn 1850 ac a ymestynnwyd ar ôl hynny yn ystod y chwarter canrif a ddilynodd. Fe'i nodweddir gan grid unionlin o dai diwydiannol yn dyddio o'r cyfnod cyn y 1860au, er bod yr ardal graidd gynnar bellach wedi cael ei dymchwel a'i hailadeiladu yn gyfan gwbl.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal dirwedd hanesyddol Abercanaid a Llwyn-yr-Eos yn cynnwys gwaith haearn ac anheddiad glofaol pwysig yn dyddio o'r 1850au sydd at ei gilydd yn gyfan. Datblygwyd yr ardal yn wreiddiol yn ystod y 1830au a'r 40au ar ôl i byllau'r Graig a Gethin gael eu cloddio, ac roedd yn gysylltiedig â chynnydd mewn cynhyrchiant yng Ngwaith Haearn Plymouth. Yn debyg i'r Graig ac Abercanaid Uchaf i'r gogledd, sefydlwyd yr anheddiad gerllaw Camlas Sir Forgannwg (HLCA 014), a barhaodd i fod yn gysylltiad trafnidiaeth pwysig ar gyfer yr ardal.

Cyn sefydlu'r anheddiad, cynhwysai'r ardal goetir ac ardal o gaeau amaethyddol isel, a oedd yn rhan o ddaliad Abernant Gethin Ystâd Dynevor.

Sefydlwyd cnewyllyn cynnar yr anheddiad erbyn 1850 a nodweddid y cyfnod gan y cysylltiad cryf a fu rhwng Camlas Sir Forgannwg a'r anheddiad. Cynhwysai'r anheddiad un Rhes a bythynnod eraill yn wynebu'r gamlas a'i llwybr halio, tra roedd tair rhes gyfochrog, hy David Square, Henry Square, a Catherine Square, wedi'u trefnu ar ongl sgwâr iddi: ailddatblygwyd yr ardal graidd gynnar hon yn gyfan gwbl yn ystod y blynyddoedd diweddar ac erbyn hyn mae'r ardal yn cynnwys ystâd fodern, sef Catherine Close. Lleolid Llwyn-yr-Eos House ychydig i'r gogledd, tra roedd Pwll Gethin Rhif 1 gryn bellter i'r de, gyda thir amaethyddol rhyngddo a'r ty, ac roedd Park Square, a gynhwysai resi wedi'u trefnu ar ffurf L (dymchwelwyd yr olaf erbyn hyn) wedi'i leoli y tu hwnt i'r pwll (o fewn HLCA 014).

Roedd yr anheddiad gwreiddiol wedi'i ymestyn gryn dipyn erbyn 1878 a chodwyd rhagor o Resi yn wynebu'r Gamlas a'r ffordd gyfagos, gan gynnwys Canal Row sydd wedi goroesi. Roedd yr anheddiad wedi'i gynllunio mewn patrwm grid rheolaidd o derasau, gyda'r tai yn ffurfio Rhesi cymharol hir. Yn ei hanfod cynhwysai'r anheddiad bryd hynny High Street, River Row (mae 1-6 yn rhestredig gradd II) Nightingale Street (mae rhifau 1-6, 7-12, 70-75, 76-81 i gyd yn rhestredig gradd II), Gethin Street, Cardiff Street, Newton Street, a thai ar hyd ochr orllewinol Chapel Street. Bryd hynny, cynhwysai'r anheddiad ddau Dafarn, sef Tafarn y Richard's Arms a'r Glamorgan Arms, a dwy ysgol ac un capel, sef Capel Zion (Annibynnol; 1860). Cynhwysai'r ardal rhwng yr anheddiad ac Afon Taf randiroedd helaeth yn bennaf. Darparai cerrig sarn fynediad ar draws Afon Taf i Bentrebach a'r Gwaith Haearn. Gwellhawyd y man croesi hwn dros yr afon yn ddiweddarach i greu pont droed, gan ei gwneud yn haws i gyrraedd Gorsaf Abercanaid ar Reilffordd Dyffryn Taf, a oedd wedi'i lleoli i'r dwyrain o'r Afon.

Erbyn 1918/19 roedd yr anheddiad wedi tyfu i lenwi ardal y rhandiroedd yn sgîl creu Alexander Place a Donald Street, tra roedd y tai ar hyd ochr ddwyreiniol Chapel Street a phen deheuol Gethin Street wedi'u cwblhau. Roedd Eglwys St Peter and St Paul wedi'i hadeiladu erbyn y dyddiad hwn hefyd.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk