Disgrifio Nodweddian
Tirweddau Hanesyddol |
|
HLCA 017 Y Graig Anheddiad glofaol cynnar gerllaw camlas
(Camlas Sir Forgannwg) a phwll glo. |
|
Crynodeb
Cefndir Hanesyddol Mae ardal dirwedd hanesyddol Graig yn anheddiad cymysg yn cynnwys ystâd fodern, sef Graig Grove, a adeiladwyd ar ddiwedd yr 20fed ganrif i'r de o Graig Road, ychydig i'r dwyrain o Ffordd yr A470(C) a adeiladwyd yn ddiweddar ac enghreifftiau o dai diwydiannol cynharach, sef rhesi unigol gan mwyaf sy'n gysylltiedig â Phwll Graig. Mae'r olaf yn cynnwys Pond Row yn dyddio o tua 1840, sef enghraifft dda a phrin bellach, o waith adeiladu ty dros dy. Roedd Pwll y Graig, neu Bit-y-Witw, ar waith yn cynhyrchu glo ar gyfer y fasnach mewn glo ager o ganol y 1830au wedi'i osod ar brydles i Lucy Thomas a'i mab William; erbyn y 1840au roedd y galw am lo o byllau megis Pwll y Graig eisoes yn fwy na'r cyflenwad, ym 1861 cododd Cwmni Glo'r Graig (Abercanaid) 24,000 o dunelli o lo. Datblygodd yr ardal o droad y 19eg ganrif wrth fan croesi ar Gamlas Sir Forgannwg (pont gamlas ddyddiedig 1792/94, a ddymchwelwyd); erbyn 1832 roedd Graig Cottage wedi'i adeiladu ychydig i'r gorllewin o'r gamlas. Yng nghanol y 19eg ganrif, roedd yr anheddiad, a oedd yn eiddo bryd hynny i ryw Mary Morgan, wedi'i ymestyn ar ôl i byllau glo Abercanaid Uchaf a'r Graig agor. Cynhwysai'r anheddiad, erbyn y cyfnod hwn, ddwy res gyfochrog, ar bob ochr i Gamlas Sir Forgannwg, yr oedd Pond Row yn un ohonynt; Doc Graig Camlas Sir Forgannwg wedi'i leoli i'r de, ac roedd gwahanol randiroedd wedi'u nodi hefyd. Roedd Capel y Graig (Wesleaid Cymreig) ynghyd â'i fynwent gyfagos hefyd wedi'u hadeiladu erbyn y dyddiad hwn (fe'u dymchwelwyd bellach). Roedd pyllau Abercanaid Uchaf a'r Graig ill dau yn segur erbyn diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Erbyn y dyddiad hwn roedd gan yr ardal orsaf ar Gyd-Reilffordd GWR a Rhymni gerllaw Graig Cottage, dilewyd y safle pan adeiladwyd ffordd fodern yr A470(C) (HLCA 081). |
|
Ffynonellau | |
Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag
Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y
cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk
neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk
|