Disgrifio Nodweddian
Tirweddau Hanesyddol |
|
HLCA 016 Abercanaid Uchaf Anheddiad glofaol cynnar pwysig
gerllaw camlas a phwll glo Glyndyrys (ty'r injan).
|
|
Crynodeb Pwll glo pwysig ar lan camlas yn dyddio o ddechrau'r 19eg ganrif sy'n gysylltiedig â Phwll Glyndyrys a Gwaith Glo Plymouth. Mae'n cynnwys enghreifftiau da o dai brodorol diwydiannol yn dyddio o ddechrau'r 19eg ganrif. Cefndir Hanesyddol Mae ardal dirwedd hanesyddol Abercanaid Uchaf yn cynnwys anheddiad diwydiannol a adeiladwyd ar ddechrau'r 19eg ganrif rhwng ffordd y plwyf a Chamlas Sir Forgannwg. Rhwng 1814 a 1832, dengys mapiau AO cynnar fod yr anheddiad yn cynnwys dwy res gyfochrog o fythynnod, a phwll glo i'r gorllewin. Lleolid anheddiad gwreiddiol Abercanaid, a gynhwysai res o adeiladau fferm a ffermdy wedi'u gosod o fewn cae lled hirsgwar, o fewn yr ardal gyfagos (HLCA 015) ychydig i'r gorllewin o Ffordd y Plwyf a Chamlas Sir Forgannwg; erbyn hyn mae'r anheddiad hwnnw wedi'i ddymchwel. Y darlun manwl cyntaf o'r anheddiad yw'r un a dynnwyd ar gyfer Degwm 1850, a ddangosai ddwy res gyfochrog fel cynt, ynghyd â rhesi ychwanegol ar hyd y lôn i Fferm Gwaun Wyllt (Waunwyllt). Yng nghanol yr anheddiad roedd fila fawr, sef Upper Abercanaid House (waliau gardd a phileri rhestredig gradd II). Bryd hynny roedd yr ardal yn rhan o ystâd Thomas Thomas. Roedd capel o eiddo'r Bedyddwyr Cymreig, sef Capel Shiloh, wedi'i nodi erbyn 1878, tra roedd dau dy injan, ffordd aer gyfagos, a lefel haearnfaen i'r gogledd o Abercanaid, yr ymddengys fod pob un ohonynt yn segur erbyn 1919. Yn y cyfnod hyd at 1919, ymddengys i'r un fwyaf gorllewinol o'r ddwy res gyfochrog gael ei dymchwel. Cynhwysai'r nodweddion cloddio cyfagos a nodwyd Bwll Glyndyrys, ynghyd â dau bwll cysylltiedig arall o fewn yr anheddiad ei hun, a lefel ychydig i'r gorllewin o Gapel y Bedyddwyr (GRO/D/D HSE/1). |
|
Ffynonellau | |
Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag
Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y
cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk
neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk
|