Disgrifio Nodweddian
Tirweddau Hanesyddol |
|
HLCA 015 Parciau Diwydiannol a Busnes Dyffryn Taf Ardal
ddiwydiannol/adwerthol ddiweddar a adeiladwyd yn rhannol dros gyn-waith
haearn, tomenni a nodweddion trafnidiaeth a rheoli dwr cysylltiedig; safle
gweithfeydd cloddio glo cysylltiedig; safle anheddiad gwaith haearn; pensaernïaeth
ddiwydiannol yn dyddio o'r cyfnod ar ôl y rhyfel. |
|
Crynodeb Ardal ddiwydiannol a manwerthu a adeiladwyd yn yr 20fed ganrif dros ran o safle'r hen Waith Haearn a'r Tomenni Lludw a oedd yn gysylltiedig â Chwmni Haearn Plymouth. Er bod yr ardal yn cynnwys enghraifft ddiddorol o'r datblygiadau diwydiannol a welwyd ar ôl y rhyfel, sef Ffatri Hoover, gwnaed y prif waith i adfer safleoedd y gwaith haearn ym 1974. Cefndir Hanesyddol Mae ardal dirwedd hanesyddol Parciau Diwydiannol a Busnes Dyffryn Taf yn cynnwys llawr dyffryn Afon Taf. Arferai'r ardal fod yn gysylltiedig â Gwaith Haearn Plymouth, a sefydlwyd ym 1763 gan Isaac Wilkinson a John Guest ar dir a gymerwyd ar brydles gan Iarll Plymouth. Gwerthwyd Gwaith Haearn Plymouth ym 1765 i Anthony Bacon ar ôl methu â gwneud unrhyw gynnydd i ddechrau, ac yn ddiweddarach daeth y gwaith o dan reolaeth Richard Hill (bu farw 1806) ym 1783. Arhosodd y gwaith yn nwylo'r teulu Hill nes i Anthony Hill farw ym 1862, pan y'i prynwyd gan y Mri Fothergill, Hankey a Bateman. Dibynnai Gwaith Plymouth ar bwer dwr, ymhell ar ôl i'r broses ddod i ben ym mhobman arall ac er mwyn ailddefnyddio'r cyflenwad dwr bu'n rhaid i'r gwaith ehangu i dri safle ar wahân, gydag ychwanegiad Ffwrnais Pentrebach a Ffwrnais Dyffryn (gweler HCLA 015). Cyflwynwyd pwer ager yn y pen draw gan arwain at gynnydd dramatig yn yr allbwn yn dilyn hafau sych 1843 a 1844. Yn ystod ail hanner y 19eg ganrif, bu cyfuniad o dechnoleg ddarfodedig ac economeg o anfantais i Waith Haearn Plymouth. Yn sgîl prinder cyfalaf i drosglwyddo'r gwaith i gynhyrchu dur, caeodd y gwaith ym 1880; er y bu i'r cwmni barhau i gloddio ei gronfeydd helaeth o lo o bwll South Dyffryn a'i byllau eraill. Lleolid dau o dri safle Gwaith Haearn Plymouth: sef Gefail Pentrebach a ffwrneisi Dyffryn o fewn ardal 015A, ar ochr orllewinol Afon Taf. Ychwanegiadau diweddarach at y gwaith oedd y rhain, a sefydlwyd ar ôl i'r Plymouth Forge Company gael ei greu ym 1803, tra roedd safle Gwaith Plymouth, y gwaith cynharaf, wedi'i leoli i'r gogledd-ddwyrain o'r ardal (gweler HLCA 019). Bu olion y gwaith haearn yn destun dau gynllun adfer mawr a gyflawnwyd yn ystod 1974. O ddechrau'r 19eg ganrif o leiaf ymddangosodd tomenni lludw helaeth yn yr ardal rhwng Ffwrnais Plymouth a glan ddwyreiniol Afon Taf ; o tua'r 1820au roedd lludw yn cael ei arllwys ar lan orllewinol Afon Taf a arferai fod yn ardal goediog, ac roedd y ddwy ardal wedi'u cysylltu â Gwaith Haearn Plymouth gan rwydwaith helaeth o dramffyrdd. Nodwyd y tomenni lludw am y tro cyntaf ym 1878, yn ogystal â phont ludw Plymouth a gysylltai'r ddwy ardal o domenni. Erbyn 1878 cynhwysai'r ardal hon dy o'r enw Willows i'r gogledd o'r tomenni lludw ac ymunodd gwaith gwifrau ag ef yn ddiweddarach, ond roedd hwn yn segur erbyn 1905. Ar ben hynny cynhwysai'r ardal safle anheddiad gwaith haearn Upper Pentrebach yn dyddio o ddechrau'r 19eg ganrif, a gynhwysai erbyn 1850 yr ardal a adwaenid fel y 'Triangle'. Erbyn 1878, roedd gan yr anheddiad ysgol, sef Ysgol Pentrebach (ysgol waddoledig). Nodweddid yr ardal bryd hynny gan nifer fawr o randiroedd. Roedd nodweddion cynharach i'w gweld o hyd, megis camlas gyflenwi Plymouth a'i chored gysylltiedig, a nifer fawr o reilffyrdd diwydiannol, gan gynnwys tramffordd, a groesai o Abercanaid, ar draws Pont Abercanaid, i Waith Haearn Pentrebach. Lleolid gwahanol nodweddion diwydiannol ar hyd cwr dwyreiniol yr ardal, megis tai injan, ffyrdd aer a stordai yn gysylltiedig â gweithfeydd glo a haearn yr ardal. Roedd yr ardal i'r de o Pentrebach House at ei gilydd yn dal i fod yn dir amaethyddol agored a ffiniai â Rheilffordd Dyffryn Taf. Dangoswyd Gwaith Haearn Dyffryn hefyd, gan gynnwys ffwrneisi chwyth, ty injan, gefeiliau, siafftiau a thramffyrdd diwydiannol. Erbyn 1919 roedd safleoedd y cyn-waith haearn yn cael eu defnyddio at ddibenion eraill: tra roedd gwaith brics wedi'i leoli ar safle Gwaith Haearn Pentrebach, roedd Ffwrneisi Dyffryn bellach wedi'u disodli gan Waith Boeleri Dyffryn. Yn ystod y 1940au, sefydlwyd Ffatri Hoover, a ehangodd ar ôl hynny i feddiannu dwy lan Afon Taf fel tomenni cynharach Gwaith Haearn Plymouth. Yn ystod y 1970au adferwyd llawer o'r dirwedd ddiwydiannol oddi amgylch gan gynnwys y Triangle a Gwaith Plymouth eu hunain, ac yn dilyn hynny câi rhan helaeth o'r ardal ei defnyddio at ddibenion diwydiannol ysgafn a manwerthu. |
|
Ffynonellau | |
Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag
Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y
cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk
neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk
|