Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Merthyr Tudful


012 Gwaith Haearn Cyfarthfa


HLCA 012 Gwaith Haearn Cyfarthfa Gwaith Haearn a nodweddion cydberthynol gerllaw: gan gynnwys nodweddion trafnidiaeth ddiwydiannol a nodweddion rheoli dwr; cysylltiadau hanesyddol, technolegol a chelfyddydol; safle cyn-gartref meistr haearn.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon


(Nôl i'r map)

 

 


(Foto : GGAT Merthyr 012)

Ardal gymeriad Gwaith Haearn Cyfarthfa a Nodweddion Cysylltiedig: gwaith haearn cynnar pwysig ac olion sydd wedi goroesi.

Crynodeb

Sefydlwyd Gwaith Haearn Cyfarthfa ym 1765, ac erbyn 1806 hwn oedd y gwaith haearn mwyaf yn y byd, diolch i'r ffaith mai gwaith Cyfarthfa oedd y cyntaf yn yr ardal i newid i gynhyrchu barrau haearn a mabwysiadu prosesau eraill a oedd yn ddatblygedig yn dechnolegol ar ddiwedd y 18fed ganrif. Roedd ffawd y gwaith yn fwy cymysg yn ystod ail hanner y 19eg ganrif, er i'r gwaith newid i gynhyrchu dur. Mae'n dirwedd bwysig yn genedlaethol ac yn rhyngwladol a nodweddir gan nodweddion diwydiannol sydd wedi goroesi megis y Banc Llenwi a'r Ffwrneisi Chwyth, Pont Haearn Pont-y-Cafnau, Tomenni Lludw Cyfarthfa, a'r chwarel galchfaen a'r dramffordd gysylltiedig.

Cefndir Hanesyddol

Ardal dirwedd hanesyddol Gwaith Haearn Cyfarthfa a'i nodweddion cysylltiedig yw safle'r gwaith haearn a sefydlwyd ym 1765 gan Anthony Bacon, brodor o Cumberland, a'i bartner William Brownrigg. Rhedai'r gwaith un ffwrnais i ddechrau a chanolbwyntiai ar gynhyrchu haearn crai. Ar ôl i Bacon ymddeol ym 1783, daeth Richard Crawshay yn berchennog ar Waith Cyfarthfa. Ar ôl hynny arhosodd y gwaith yn nwylo'r teulu Crawshay, ac fe'i trosglwyddwyd o Richard Crawshay, a fu farw ym 1810 i William Crawshay I, a gyfarwyddai'r gwaith o redeg Gwaith Cyfarthfa o'i swyddfa yn Llundain, tra mai ar William Crawshay II y syrthiodd y dasg o reoli'r gwaith o ddydd i ddydd, gan gynnwys y gwaith ehangu ar raddfa fawr a wnaed ar y gwaith. Ef hefyd oedd yn gyfrifol am adeiladu Castell Cyfarthfa ym 1825 (gweler HLCA 013).

Y gwaith yng Nghyfarthfa oedd y cyntaf yn yr ardal i newid i gynhyrchu barrau haearn, a arweiniodd yn y pen draw at y sefyllfa lle mai Cyfarthfa oedd y Gwaith Haearn mwyaf yn y byd erbyn 1806. Roedd gan William Crawshay mewn partneriaeth â George Watkin, rheolwr ffowndri, sydd fwyaf enwog efallai am fod yn gysylltiedig â chynllunio nifer o bontydd haearn bwrw cynnar yr ardal, gan gynnwys Pont-y-Cafnau sydd wedi goroesi, ran allweddol mewn mabwysiadu proses bwdlo Cort yn fuan ar ôl iddi gael ei phatentu ym 1784. Gorfodwyd i waith Cyfarthfa brynu cyflenwadau o haearn crai o Ddowlais a Plymouth i'w buro er mwyn cynnal lefelau cynhyrchiant barrau haearn.

Nodir cynllun y gwaith bryd hynny mewn golygfa a dynnwyd tua 1800 gan William Pamplin; dengys bedair ffwrnais a thai llenwi a siediau bwrw cysylltiedig a ddefnyddid i gynhyrchu haearn crai, a'r olwyn ddwr a oedd yn 48 troedfedd ar ei thraws a yrrai'r fegin. Yn syth i'r gogledd ceir adeilad mawr â nifer fawr o simneiau a oedd yn gartref i'r ffwrneisi pwdlo a'r melinau rholio. Ymddengys cynllun y gwaith a'i nodweddion cysylltiedig yn dyddio o ddechrau'r 19eg ganrif ar fapiau AO a lluniau tirfesurwyr yn dyddio o'r cyfnod hwnnw. Nodir tramffyrdd yn arwain i Gamlas Sir Forgannwg hefyd.

Manteisiodd y gwaith ar y cynnydd mewn gweithgarwch adeiladu rheilffyrdd yn y 1830au a'r 1840au, ac adeiladwyd melin newydd ym 1833 o ganlyniad. Fodd bynnag, byddai marchnadoedd allforio a oedd yn lleihau, ymhlith anawsterau eraill, yn effeithio ar ail hanner y 19eg ganrif. Ni allai Robert Thompson Crawshay weld unrhyw ddyfodol yn y diwydiant haearn erbyn 1864 a dim ond gyda chryn anfodlonrwydd yr ail-negododd brydles Cyfarthfa. Er i gynhyrchiant gyrraedd uchafbwynt ym 1871, nodweddid y cyfnod gan ffyniant wedyn methiant a phroblemau cysylltiadau llafur. Parhaodd un streic yn arbennig a ddechreuodd ym mis Ebrill 1874 ynghylch gostyngiadau mewn cyflogau dros flwyddyn, tra bu'r ffwrneisi yn segur tan 1879 a marwolaeth Robert Thompson Crawshay.

Dangoswyd y gwaith haearn yn fanwl ar y mapiau AO dyddiedig 1875 a 1878 wedi'i leoli ar bob ochr i afon Taf ac wedi'i gysylltu gan ddwy bont dramffordd, yn ogystal â Phont-y-Cafnau. Cynhwysai nodweddion hynod a fodolai bryd hynny, ar wahân i'r ffwrneisi chwyth, siediau bwrw, gefail, ac iard gols (yn debyg i'r hyn a ddarluniwyd gan Pamplin ym 1800) a ffyrnau cols helaeth y tu ôl i'r banc llenwi a ffrwd Tai-mawr i'r gogledd-orllewin o'r gwaith.

Dechreuodd y newid i ddur yn fuan ar ôl hynny pan adeiladwyd pedair ffwrnais newydd wedi'u gorchuddio â haearn, a dechreuwyd cynhyrchu dur ym 1884 o dan dri mab Robert Thompson Crawshay, yn masnachu dan yr enw Crawshay Brothers (Cyfarthfa) Ltd. Codwyd ffwrneisi silindrig wedi'u gorchuddio â haearn o flaen ffwrneisi chwyth y cyn-waith haearn. Un o nodweddion pwysig y cyfnod oedd y domen sorod linellol yn arwain i'r gogledd-orllewin ar hyd glan orllewinol y Taf Fawr a ddyddiai o'r cyfnod tua 1884. Ymhlith newidiadau eraill roedd rhes newydd o ffyrnau cols a newidiwyd cyfliniad yr iard gols. Ym 1902, daeth gwaith Cyfarthfa, nad oedd yn gwneud cystal erbyn hynny, i feddiant cwmni GKN. Er gwaethaf rhagor o fuddsoddi, ni lwyddodd y gwaith i wneud elw a daeth y cynhyrchiant i ben ym 1910, er i'r gwaith agor am gyfnod byr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Roedd Ardal gysylltiedig y Tomenni Lludw i'r de yn rhan o Ystâd Dynevor a brydleswyd i'r teulu Crawshay. Fe'i darluniwyd yn gynnar yn ystod ei datblygiad yn ystod chwarter cyntaf y 19eg ganrif, wedi'i chysylltu â'r gwaith haearn gan dramffordd, rhan o rwydwaith trafnidiaeth ehangach a oedd hefyd yn nodweddiadol o ardaloedd cyfagos, Ardaloedd HLCAs 066, 069 a 070. Yn ystod y cyfnod dilynol arllwyswyd cryn dipyn o wastraff dros yr ardal: yn y pen draw ymestynnai'r domen ludw hyd at Georgetown, ac roedd wrthi'n cael ei hymestyn i'r de i Gwm Pant Bach. Ar ben hynny lleolid ardal ar wahân o domenni lludw i'r de o Gwm Pant Bach, ychydig i'r gogledd o Waith Haearn Ynysfach. Nodweddid ymylon yr ardal gan randiroedd bach, tra roedd ty injan wedi'i leoli ychydig i'r gogledd o Ardal y Tomenni Lludw. Erbyn 1905 er nad oedd Ardal y Tomenni Lludw wedi newid at ei gilydd; roedd ty'r injan yn segur bellach, tra'r ymddengys fod yr ardal o domenni i'r gogledd o waith haearn Ynysfach wedi'i gorchuddio i raddau helaeth gan randiroedd bach, rheolaidd.

Lleolir hen lefel haearnfaen (Pwll Ynysfach) yn yr un ardal gyffredinol. Erbyn 1919, roedd gwastraff o'r gweithfeydd wedi'i arllwys dros y rhandiroedd ar ochr orllewinol Llwyn Celyn Lane.

Mae'r ardal i'r gogledd-ddwyrain o'r gwaith haearn a Phont-y-Cafnau yn cynnwys Chwarel Galchfaen y Gurnos, tramffordd ac odyn galch gofrestredig gysylltiedig, gerllaw Pont-y-Cafn, a Chamlas Gyflenwi Cyfarthfa sy'n gofrestredig. Oherwydd yr angen am ddwr a chalchfaen yng Ngwaith Haearn Cyfarthfa bu'n rhaid adeiladu pont ceffylau pwn neu blatffordd a dyfrbont gyfunedig, Pont-y-Cafnau, yn ystod y 1770au byddai'r strwythur hwn wedi'i wneud o bren; mae brasluniau gan JMW Turner ym 1797 yn darlunio'r ddyfrbont bren uchel, a arferai gyflenwi olwyn ddwr fawr y gwyddom iddi gael ei defnyddio o 1796 ymlaen. Sicrhaodd prydles ddyddiedig 1771 yr hawl i gloddio calchfaen o Chwarel y Gurnos ac roedd Tramffordd y Gurnos wedi'i hadeiladu erbyn 1792-3. Credir bod Pont Haearn bresennol Pont-y-Cafnau, a ddarlunnir mewn darlun dyddiedig tua 1819/20 gan Penry Williams, yn dyddio o'r cyfnod hwn, neu yn fuan ar ôl hynny, tua 1793. Nodir cynllun nodweddion yr ardal gan fap AO dyddiedig 1875 a ddarluniai hefyd Gamlas Gyflenwi Cyfarthfa a'r ffrwd a redai iddi o gored (yr un a adeiladwyd ym 1766-77 efallai) ar afon Taf Fechan i'r gogledd ar draws Pont-y-Cafnau.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk