Disgrifio Nodweddian
Tirweddau Hanesyddol |
|
HLCA 009 George Town, Cyn-anheddiad Diwydiannol Ardal anheddiad
diwydiannol: a ailwampiwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf ond sydd wedi
cadw ei gynllun strydoedd rheolaidd cynnar; coridor trafnidiaeth; adeiladau
crefyddol yn dyddio o'r 19eg ganrif; cysylltiadau hanesyddol (y teulu
Crawshay o Gyfarthfa; Joseph Parry. |
|
Crynodeb Anheddiad a ailddatblygwyd a oedd yn gysylltiedig yn wreiddiol â Gwaith Haearn Cyfarthfa ac a ddatblygodd ar ddechrau'r 19eg ganrif. Erbyn hyn mae'r tai gwreiddiol wedi'u dymchwel i raddau helaeth ac mae tai modern wedi cymryd eu lle, ond mae'r anheddiad wedi cadw ei gynllun grid cynharach; un nodwedd hanesyddol sydd wedi goroesi yw'r fynwent a oedd yn rhan o Gapel Bethel yn wreiddiol. Cefndir Hanesyddol Mae ardal dirwedd hanesyddol George Town, Cyn-anheddiad Diwydiannol yn cynnwys ardal cyn-anheddiad diwydiannol cynnar i'r gorllewin o Gamlas Sir Forgannwg. Sefydlwyd yr anheddiad ar ddechrau'r 19eg ganrif ar ran o Ystâd Dynevor, a brydleswyd i William Crawshay o Gyfarthfa. Yn ystod y 18fed ganrif, roedd un adeilad, tafarn o bosibl, wedi'i nodi ac erbyn 1814, roedd un rhes, i'r de-orllewin o John Street, yn ei lle, yn ogystal â nifer o fythynnod unigol. Mae mapiau AO cynnar a lluniau tirfesurwyr a chynlluniau eraill yn dilyn datblygiad yr ardal rhwng 1814 a 1832. Gan ddechrau â Dynevor Street, datblygodd yr ardal ar ôl hynny i ffurfio patrwm grid o strydoedd, gan gynnwys George Street a Nantygwennith Street. Roedd cynllun y strydoedd wedi'i sefydlu i raddau helaeth erbyn 1836 (er bod y rhesi yn dal heb eu cwblhau) a chynhwysai Trevor Street (Nantygwennith Street) a Dynevor Street, Chapel Street, Cyfarthfa Street, George Street, John Street, Richard Street, Parish Road, Iron Lane a Griffiths Lane. Roedd yr ardaloedd rhyngddynt wedi'u gosod fel iardiau/gerddi. Roedd y dramffordd rhwng Camlas Sir Forgannwg a gwaith haearn Ynys Fach yn ei lle erbyn yr adeg honno. Cynhwysai'r ardal gyfagos (HLCA 014) warysau, swyddfa'r gamlas a Chapel Row â'i chapel wythonglog. I'r de o Dynevor Street ac i'r gogledd o Waith Haearn Ynys Fach roedd ardal o dair rhes derasog yng nghyffiniau pont haearn (sef Pont Middle Lock). Roedd y tai yn yr ardal wedi'u cwblhau erbyn 1850 ac roedd dau deras ychwanegol wedi'i hadeiladu i'r gorllewin o Trevor Street i'r gogledd o Bont Jackson. Darperir rhagor o fanylion gan argraffiad cyntaf mapiau'r AO dyddiedig 1875 a 1878: sy'n nodi tramffordd rhwng Cyfarthfa a Gwaith Haearn Ynys Fach, a redai trwy'r warysau a'r iardiau coed gerllaw Chapel Row. Mae nodweddion eraill yn dyddio o'r cyfnod yn cynnwys gefail, Ysgolion Cyfarthfa, tanerdy ac ar yr ochr draw i'r gamlas, Bragdy Dyffryn Taf. Mae ychwanegiadau diweddarach yn cynnwys yn bennaf ysgolion yn yr ardal i'r gogledd o Nantygwennith Lane (Parish Road) a gymerodd le rhes o fythynnod diwydiannol. Ar ben hynny ymfalchïai'r ardal yn yr eglwys a'r capeli arferol: sef eglwys Christ Church (1857 gan J Benest), capel o eiddo'r Bedyddwyr Cymreig ar Dynevor Street, a Chapel Annibynnol Bethel (cyn 1836). |
|
Ffynonellau | |
Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag
Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y
cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk
neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk
|