Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Merthyr Tudful


005 Penydarren


HLCA 005 Penydarren Anheddiad diwydiannol: Anheddiad o eiddo Cwmni Haearn yn cynnwys gwasgariad/clwstwr agos cynnar o anheddau a, datblygiadau strimynnog llinellol yr ychwanegwyd aneddiadau cynlluniedig atynt ar ffurf blociau llinellol rheolaidd o derasau, gan gynnwys tai awdurdod lleol cynnar.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon


(Nôl i'r map)

 


(Foto : GGAT Merthyr 005)

Ardal gymeriad Penydarren: anheddiad gweithwyr haearn yn dyddio o ddechrau'r 19eg ganrif.

Crynodeb

Daeth Penydarren i fodolaeth ar ddechrau'r 19eg ganrif fel anheddiad diwydiannol yn gysylltiedig â Chwmni Haearn Penydarren a chynhwysai ei graidd glwster bach o fythynnod wedi'i ymestyn gan ddatblygiadau strimynnog, a ffurfiai grid rheolaidd fwy neu lai ar ôl hynny. Mae'r adeiladau yn derasau llinellol rheolaidd yn bennaf a'r adeiladau cyhoeddus a'u gwasanaethai, gan gynnwys eglwys, capeli, tafarndai ac ysgolion.

Cefndir Hanesyddol

Datblygodd ardal dirwedd hanesyddol Penydarren ar ddechrau'r 19eg ganrif ar dir a ddaeth i feddiant Cwmni Haearn Penydarren (rhan o dir yn perthyn i Fferm Gellifaelog). Cynhwysai'r anheddiad gwreiddiol glwstwr bach o fythynnod gerllaw'r lôn i Waelod-y-Garth (Tramroad Lane) wrth gyffordd â'r ffordd i Ddowlais a nifer fach o fythynnod i'r de o High Street. Cafwyd rhagor o ddatblygiadau strimynnog llinellol yn y cyfnod 1814 hyd 1840 i'r de o High Street rhwng yr olaf a'r dramffordd yn arwain i Ddowlais. Dangosai'r Map Degwm (tua 1850) resi cynnar ar hyd High Street a Penydarren Road a nodai gynllun y strydoedd a oedd yn cael eu hadeiladu yn yr ardal y tu hwnt, gan gynnwys Church Street a Plantation Street, er bod yr ardal i'r gogledd yn dal i fod yn dir amaeth.

Erbyn 1879, cynhwysai anheddiad Penydarren resi ar bob ochr i High Street yn ymestyn cyn belled i'r de-ddwyrain â Nantmorlais. Ymestynnai'r craidd cynnar gwreiddiol gerllaw Tramroad Lane hyd at Plantation Street, Church Street, North Street, Upper North Street a Penydarren Road, i fyny'r llethr ac yn gyfochrog â North Street. Roedd Capel Elim, o eiddo'r Bedyddwyr Cymreig, a'i fynwent i'r de o North Street hefyd i'w gweld erbyn y dyddiad hwn. Bryd hynny roedd tramlein o chwareli carreg calch Morlais, i'r gogledd yn dal i fod yn nodwedd ar Tramroad Lane. Roedd y gwelyau hidlo i'r gogledd o Benydarren (Gwaith Dŵr Penybryn) yn arwydd o'r gwaith a wnaed yn ystod y cyfnod i wella hylendid.

Dechreuodd cynllun yr anheddiad newid ar ôl ychwanegu Brynhyfryd Street - pedwar bloc o derasau llinellol erbyn 1897-9. Roedd y stryd hon a bron pob un o'r strydoedd diweddarach wedi'u gosod ar ongl sgwâr i gyfliniad cynharach y strydoedd. Yn y diwedd roedd y terasau diweddarach, a gwblhawyd erbyn 1919, gan gynnwys Urban Terrace, Council Terrace (mae'r ddwy stryd olaf, yn dyddio o 1903, yn cynnwys yr enghreifftiau cynharaf o dai cyngor ym Merthyr Tudful) Brynheulog Terrace, Lloyds Terrace a Williams Place a Tanybryn Place, Seward Street yn ffurfio'r patrwm grid llinellol nodweddiadol a welir heddiw. Roedd Gwaunfarren Road, sef ffin ogleddol yr anheddiad, yn eithriad, ac mae'n cynnwys terasau a thai pâr (rhai â ffenestri bae); roedd y stryd hon wedi'i gosod ar gyfliniad tebyg i High Street.

Erbyn 1905, roedd gan yr anheddiad o leiaf ddau westy, tafarn a Swyddfa Bost, ac roedd y tramleiniau wedi diflannu o Tramroad Lane. Yn ystod y 14 o flynyddoedd a ddilynai adeiladwyd ysgolion yn yr ardal i'r gogledd yng Nghwm Rhyd-y-Bedd gan gynnwys yr Ysgol Fabanod, tra roedd ysgol arall wedi'i hadeiladu i'r gorllewin o Tramroad Lane gan ddileu'r anheddiad craidd cynharaf. Roedd gwaith datblygu hefyd wedi dechrau ar 'safle'r ardd-ddinas' gerllaw i'r gogledd, gerllaw Fferm Gellifaelog (gweler HLCA 050).

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk