Disgrifio Nodweddian
Tirweddau Hanesyddol |
|
HLCA 004 Ardal Gwaith Haearn Penydarren Ardal gwaith haearn
cynnar yn cynnwys olion ffwrneisi chwyth ac ardal gyfagos yn cynnwys tai
diwydiannol yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif / dechrau'r 20fed ganrif;
cysylltiadau hanesyddol, a thechnolegol o bwys cenedlaethol a rhyngwladol;
safle nodweddion trafnidiaeth ddiwydiannol a gweithgarwch cynhyrchu trydan.
|
|
Crynodeb Sefydlwyd Gwaith Haearn Penydarren ym 1784, ond roedd yn adfeilion erbyn y 1870au. Datblygwyd yr ardal ar ôl hynny fel depo ar gyfer y system dramffyrdd a thai gweithwyr. Mae rhai o adeiladweithiau'r gwaith haearn wedi goroesi, ond fel arall nodweddir yr ardal gan dai teras diwydiannol yn bennaf. Cefndir Hanesyddol Mae ardal dirwedd hanesyddol Ardal Gwaith Haearn Penydarren yn cwmpasu prif ardal y gwaith haearn a sefydlwyd ym 1784 gan Francis Homfray. Ym 1788, Penydarren oedd yr ail waith haearn ym Merthyr Tudful i ddechrau cynhyrchu barrau haearn, gan brynu haearn crai o Ddowlais i gwrdd â'r galw. Dengys tystiolaeth gartograffig yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif (1799 Yates) ddau floc o adeiladau Gwaith Haearn a "ffordd wagenni" a gyrhaeddai Waith Haearn Penydarren o'r de o'r pyllau glo yn HLCA 039. Datblygodd y gwaith nifer fawr o lwybrau a thramffyrdd yn ystod y blynyddoedd a ddilynodd. Cafodd hyn gryn effaith ar HLCA 040 gerllaw; erbyn 1814 roedd yr ardal eisoes wedi'i chloddio ar raddfa fawr, ac mae mapiau diweddarach yn dilyn y datblygiad. Daeth cysylltiad y teulu Homfray â'r gwaith i ben pan fu farw Samuel Homfray ym 1822. Ar ôl hynny parhaodd y gwaith dan bartneriaeth Thompson a Foreman. Bu gwaith haearn Penydarren wrthi'n cynhyrchu cledrau yn y cyfnod cynnar, gan gyflenwi Rheilffordd Lerpwl a Manceinion. Fodd bynnag achosodd marchnadoedd tra chystadleuol y 1850au fwy a mwy o anawsterau a daeth cynhyrchiant i ben ym 1859, o dan y Mri Fothergill a Hankey. Gwerthwyd y gwaith a'i ddyddodion mwynau helaeth cysylltiedig ar ôl hynny i Ddowlais am bron i £60,000. Er y dengys ffynonellau cartograffig fod y Gwaith Haearn, gan gynnwys ei ffwrneisi chwyth, ei dai bwrw, a'i rwydwaith rheilffyrdd i'w gael o hyd ym 1875-78, dengys ffotograffau'r dydd fod y gwaith yn adfeilion erbyn y dyddiad hwn. Cliriwyd ardal y gwaith haearn ar ôl hynny ac erbyn 1919, roedd depo'r tramffyrdd a gorsaf drydan Merthyr Electric Traction and Lighting Co. wedi'u lleoli ar safle'r ffwrneisi. Ailddatblygwyd rhan orllewinol y gwaith haearn ar ôl hynny ar gyfer tai; erbyn 1905 roedd ochr ddeheuol Trevithick Street a rhan o'i hochr ogleddol a rhes fer yn Gwynnes Close yn eu lle, ac wedi'u cwblhau erbyn 1919. Ar ben hynny dangosai'r dystiolaeth gartograffig res fer yn dyddio o'r cyfnod cyn 1850, gyferbyn â'r fynedfa i Barc Penydarren. |
|
Ffynonellau | |
Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag
Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y
cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk
neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk
|