Disgrifio Nodweddian
Tirweddau Hanesyddol |
|
HLCA 002 Williamstown, Cae-Pant-Tywyll, Tydfil's Well a Morgan
Town Anheddiad gweithwyr sydd mewn cyflwr da: twf anheddiad diwydiannol
cynnar cynllun llinellol a rheolaidd cymysg, gwaith adnewyddu trefol diweddar
ar raddfa fach; cysylltiad agos â Gwaith Haearn Cyfarthfa; coridor
trafnidiaeth ddiwydiannol.
|
|
Crynodeb Mae'r ardal dirwedd hon yn deillio o'r anheddiad gwaith haearn a oedd wedi'i leoli o amgylch Gwaith Haearn Cyfarthfa ar ddiwedd y 18fed ganrif, ac roedd eisoes wedi'i gwblhau i raddau helaeth erbyn 1836. Mae'n cynnwys enghreifftiau pwysig o dai gweithwyr cynnar a datblygiad masnachol bach ond pwysig yn Morgan Town. Cefndir Hanesyddol Datblygodd ardal dirwedd hanesyddol Williamstown, Cae-Pant-Tywyll, Tydfil's Well a Morgan Town ar ddiwedd y 18fed ganrif, fel anheddiad gwaith haearn wedi'i leoli o amgylch Gwaith Haearn Cyfarthfa. Datblygodd yr ardal ar wahân i brif graidd Merthyr Tudful i'r de (HLCA 001) i bob pwrpas, gyda thomenni yn ardal Abermorlais yn gwahanu'r ddau. Erbyn 1814, cynhwysai'r anheddiad ddatblygiad strimynnog llinellol ar hyd Brecon Road o resi byr o fythynnod ar bob ochr, gan gynnwys Castle Square (Pandy Place) a'r ardal gyferbyn, sy'n cynnwys y tolldy; roedd Quarry Row, Bethesda Street hefyd yn eu lle yr adeg honno. Parhaodd yn anheddiad i ehangu ar ffurf datblygiadau strimynnog ar hyd Brecon Road. Cynhwysai nodweddion ychwanegol Bragdy Merthyr a'i bwll pysgod a Thramffordd Penydarren (HLCA 019) i ben y gamlas ar hyd Bethesda Street. Roedd yr anheddiad wedi'i gwblhau i raddau helaeth erbyn 1836 a dengys tystiolaeth gartograffig yr anheddiad yn eithaf manwl. Cynhwysai'r anheddiad Castle Square a Tydfil's Well Street (Brecon Road) a Fishpond Street; Tolldy, tafarndai, ee y Lamb and Flag a'r Grawen Arms; capeli, ee Capel Bedyddwyr, ac ar Quarry Street (Quarry Row) Bragdy Merthyr, a phwll cysylltiedig, a thanerdy. Cafwyd mân ychwanegiadau yn y cyfnod 1836-51 gan gynnwys adeiladu Bythynnod Williamstown, a gweddill Morgan Town. Roedd Park Row a'r Ysbyty Twymyn wedi'u codi erbyn 1875. Hyd nes i ardal is Cae-Pant-Tywyll i'r gorllewin o Brecon Road, a nodweddir bellach gan dai uwchraddol modern, gael ei hadnewyddu ar ddiwedd yr 20fed ganrif nid oedd fawr ddim newid i'w weld. |
|
Ffynonellau | |
Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag
Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y
cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk
neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk
|