Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Merthyr Tudful


001 Merthyr Tudful: Craidd Hanesyddol a Masnachol


HLCA 001 Merthyr Tudful: Craidd Hanesyddol a Masnachol Craidd anheddiad yn dyddio o'r cyfnod cynddiwydiannol a dechrau'r cyfnod diwydiannol sy'n cynnwys aneddiadau diwydiannol estynedig diweddarach: canolfan grefyddol, fasnachol a gweinyddol gynddiwydiannol a ddatblygodd yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol a'r cyfnod diwydiannol; adeiladau crefyddol, masnachol a gweinyddol ac adeiladau eraill yn dyddio o'r cyfnod ôl-ganoloesol, y 19eg ganrif a'r 20fed ganrif; digwyddiadau a chysylltiadau hanesyddol; coridor trafnidiaeth ddiwydiannol.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

 


(Foto : GGAT Merthyr 001)
Ardal gymeriad Merthyr Tudful: Craidd Hanesyddol a Masnachol: canol hanesyddol y dref.

Crynodeb

Datblygodd y dirwedd hon o bentref Merthyr Tudful, a oedd wedi'i ganoli ar yr eglwys ganoloesol, yn sgîl sefydlu'r gwaith haearn cyntaf ym mlaenau Dyffryn Taf yng nghanol y 18fed ganrif. O ddechrau'r 19eg ganrif gosodwyd cynllun rheolaidd o strydoedd llydan syth ar gynllun afreolaidd cynharach datblygiad diwydiannol cychwynnol y pentref gwreiddiol. Mae'r ardal hon yn cynnwys rhai adeiladau o'r cyfnod canoloesol sydd wedi goroesi, a ailwampiwyd yn ddiweddarach, ynghyd â nifer o adeiladau dinesig a chrefyddol yn dyddio o'r 19eg ganrif a'r 20fed ganrif.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Merthyr Tudful: Craidd Hanesyddol a Masnachol yn cynnwys y craidd masnachol a chanoloesol o amgylch eglwys Sant Tudful a'r darn o Dir llan lle y cafwyd y datblygiadau cynharaf, a'r datblygiad yn Nhwynyrodyn.

Dechreuodd pentref Merthyr Tudful dyfu'n dref ar ôl i'r gwaith haearn cyntaf gael ei sefydlu ym mlaenau Dyffryn Taf ym 1759-65. Fodd bynnag, ymddengys fod y cynnydd mewn gwaith datblygu yn dyddio o'r 1780au ac erbyn y cyfnod hwnnw roedd pedwar gwaith haearn, sef Dowlais, Plymouth, Cyfarthfa a Phenydarren, ar waith.

Datblygodd anheddiad Merthyr Tudful i ddechrau yn ôl y patrwm strydoedd/ffyrdd a sefydlwyd yn ystod y cyfnod canoloesol a dechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol ac erbyn 1799 roedd yr ardal i'r de o Nant Morlais wedi gweld datblygiadau trefol pwysig, er yn ddi-drefn, ac roedd yn prysur ddatblygu'n ganolfan drefol bwysig. Canolbwyntiai'r ardal graidd bryd hynny ar gnewyllyn canoloesol eglwys y plwyf, sef Eglwys Sant Tudful, Maerdy House a'r Llysty a chynhwysai High Street, Bridge Street, Broad Street, Mill Street, Swan Street, Yew Street, Cross Keys Lane a phen uchaf Plymouth Street. Roedd y diffyg gwaith cynllunio o ran anheddiad y gweithwyr haearn, y cyfeiriodd BH Malkin ato ym 1803, yn arbennig o amlwg yn yr ardal i'r de ac i'r dwyrain o Eglwys Sant Tudful. Yn y fan hon roedd dylanwad y pentref sylfaenol ar ei fwyaf. Ymddengys i gynllun di-drefn yr ardal hon oroesi nes i'r ardal gael ei chlirio yn ystod ail hanner yr 20fed ganrif; yr ardal hon a gynhwysai'r dwysedd uchaf o stoc dai Merthyr Tudful, a'r stoc dai dlotaf efallai.

Fodd bynnag, erbyn 1806 bu rhan o'r ardal yn destun gwaith ailddatblygu trefol ar raddfa fawr erbyn 1806 ac roedd strydoedd llydan, syth bellach yn nodweddiadol ac roedd cynllun rheolaidd wedi'i osod ar ddatblygiadau ardal Tir llan (Malkin 1804; 1808). Mae tystiolaeth gartograffig yn ategu'r datblygiad hwn; erbyn 1813-14 cynhwysai'r gwaith o ddatblygu'r ardal graidd adeiladau ar bob ochr i High Street, yn arbennig gerllaw Pontmorlais, cynllunio Castle Street, Cross Street, Glebeland Street, Glebeland Place ac Ynysgau Street.

Erbyn 1836 pan ychwanegwyd Clive Street (Wellington Street yn ddiweddarach), Thomas Street (Victoria Street yn ddiweddarach) a Graham Street a'r Marchnaty, a ffurfiai ardal fasnachol newydd i'r gorllewin o High Street, roedd yr ardal graidd yn gyflawn fwy neu lai. Bellach roedd gan y dref nifer fawr o gapeli ac eglwysi, nifer fawr o dafarndai, marchnad, swyddfa bost, a'r Castle Hotel a'r Posting House.

Gwnaed rhagor o waith mewnlenwi a gwaith ailddatblygu trefol yn ystod y cyfnod 1836-1875. Roedd y cynnydd yn nwysedd y tai i'r de ac i'r dwyrain o Eglwys Sant Tudful yn un o nodweddion y cyfnod yn ogystal â rhagor o resi terasog a ychwanegwyd y tu ôl i strydoedd a fodolai eisoes, megis i'r gogledd o Castle Street, a rhwng Clive Street a Bridge Street. Deilliodd yr olaf yn uniongyrchol o'r blynyddoedd o ffyniant economaidd a welwyd yn y 1830au a'r 40au. Ailddatblygwyd yr ardal rhwng Graham Street a Swan Street hefyd a gosodwyd Albert Street rhyngddynt i greu patrwm grid mwy rheolaidd. Rhywbeth arall sy'n drawiadol yw'r gwaith ailwampio (helaeth yn ôl pob golwg) a wnaed ar eiddo yn wynebu High Street, yn cynnwys datblygu rhandiroedd y cyn-iardiau cefn; mae hyn yn awgrymu bod eu swyddogaeth wedi newid o fod yn un ddomestig yn bennaf i fod yn un fasnachol yn bennaf.

Ni newidiodd cynllun yr ardal fawr ddim ar ôl hynny nes i'r ardal i'r gorllewin o High Street gael ei hailddatblygu yn ystod yr 20fed ganrif.

Yn ogystal â chynnwys ychydig o adeiladau cynddiwydiannol sydd wedi goroesi megis y Llys (adeilad canoloesol yn ôl pob tebyg a ailwampiwyd yn ystod y 18fed ganrif), a'r Crown Inn yn dyddio o'r 18fed ganrif, mae'r ardal hefyd yn cynnwys llawer o'r adeiladau mwyaf trawiadol a godwyd ym Merthyr Tudful yn y 19eg ganrif a'r 20fed ganrif, llawer gormod i'w henwi yn unigol yma. Gallai detholiad bach gynnwys Eglwys Sant Tudful (a ailadeiladwyd ym 1820-21, a drawsnewidiwyd yn ddiweddarach gan IL Pearson, 1894-1901, yn yr arddull Neo-Romanésg); Eglwys Dewi Sant (1846-47 TH Wyatt a Brandon, yn yr arddull Seisnig Gynnar); a Llyfrgell Carnegie (1935-6 T Edmund Rees).

Datblygodd ardal Twynyrodyn yn wreiddiol rhwng 1799 a 1813-14; roedd datblygiadau strimynnog llinellol i fyny Bryn Twynyrodyn yn un o nodweddion y cyfnod, gan gynnwys Coed Cae Court i'r gogledd, capel a mynwent. Ymestynnodd yr anheddiad yn Nhwyn-yr-Odyn yn ystod y cyfnod yn y canol fel bod datblygiadau strimynnog ychwanegol bron wedi'u cwblhau ar hyd Twyn-yr-Odyn Road erbyn 1875, ac i'r de roedd William Street, Mary Street a Rees Street wedi'u hychwanegu. Ychwanegwyd Dyke Street erbyn 1905 ychydig i'r gorllewin, ac erbyn 1918, Hampton Street.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk