Disgrifio Nodweddian
Tirweddau Hanesyddol |
|
21 ardal gymeriad Maerdy: "tirwedd reolaidd" yn dyddio o'r cyfnod canoloesol/ôl-ganoloesol yn ymestyn dros gefnffen isel. (Ffoto: GGAT Gwent Levels 099) Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
Cefndir Hanesyddol
Mae'r caeau cul hir, er eu bod yn debyg ar yr wyneb i dirwedd Rufeinig Llanbedr, o wahanol faint. Crëwyd y dirwedd hon trwy gau'r rhandir hwn o rostir agored rywbryd yn y cyfnod canoloesol/ôl-ganoloesol. Yn anffodus, ni chofnodwyd y broses o greu'r dirwedd hon. Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol O ran uchder mae'r ardal canoloesol) O ran uchder mae'r ardal hon hanner ffordd rhwng y tiroedd arfordirol uwch i'r de, a'r gefnffen isaf i'r gogledd. Yn ffin i'r rhandir pendant, ar wahân o dirwedd mae Ffos Drenewydd a Phercoed i'r gogledd (ardal 20), Ffos Broadway (ardal 17) i'r gorllewin, a hen gloddiau ffeniau Llansantffraid Gwynllwg i'r de ac i'r dwyrain (ardaloedd 15 a 16). Gellir rhannu'r ardal fawr hon yn bedwar bloc o gaeau cul hir (a wahenir gan Ffos Horsecroft a Ffos Summerway, a Hawse Lane). Maent yn ardaloedd mawr o dir agored, a amgaewyd ac a ddraeniwyd yn un gweithrediad. Ceir dwy fferm; mae'n debyg i fferm Maerdy gael ei sefydlu pan gaewyd yr ardal i'r dwyrain o Hawse Lane a dichon mai Hawse Farm, sydd gerllaw un o gloddiau ffeniau Llansantffraid Gwynllwg, oedd yn gyfrifol am gau'r rhandir cyfan o dirwedd i'r gogledd. Mae'r enw lle Maerdy (sef ty Maer canoloesol) yn ddiddorol, mae lleoliad y fferm Maerdy yn awgrymu bod pori anifeiliaid ar Rostir y gefnffen a arferai fod yn agored yn cael ei reoli gynt yn ystod y cyfnod canoloesol. Mae'r caeau cul hir hyn yn nodweddiadol o Wynllwg. Crëwyd y dirwedd yn y fan hon trwy gau a draenio darn mawr o rostir agored, y tu hwnt i hen diroedd amgaeëdig Llansantffraid Gwynllwg. Gellir nodi dwy dirwedd ar wahân, a gysylltir â Ffermydd Maerdy a Hawse. Tirwedd agored iawn ydyw, ac mae'r ffosydd llawn cyrs yn rhoi naws gwlyptir gryf iddi, yn nodweddiadol o'r ardaloedd is o gefnffen. At ei gilydd, mae'r ardal wedi cadw ei chyfanrwydd a'i chydlyniant yn
hynod o dda. Mae'r ddwy dirwedd yn cynrychioli dwy enghraifft ar wahân
o greu tirwedd. Mae cyfanrwydd y tirweddau hyn yn golygu eu bod yn bwysig
dros ben. Wrth gerdded i'r gogledd i lawr Hawse Lane ceir yr argraff bod
y gefnffen yn is na'r ardaloedd arfordirol i'r de. Mae'r ardal wedi dioddef
o achos gwelliannau amaethyddol, ond erys ymhell oddi wrth ddatblygiadau
sy'n ymwthiol yn weledol; mae golygfeydd ardderchog o'r ucheldiroedd nas
difethwyd ryw lawer. |
|
Ffynonellau | |
Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwlwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk |