Disgrifio Nodweddian
Tirweddau Hanesyddol |
|
17 ardal gymeriad Llanbedr: "tirwedd reolaidd" yn dyddio o'r cyfnod Rhufeinig. (Ffoto: GGAT Gwent Levels 096) Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
Cefndir Hanesyddol
Yn sgîl ymchwiliadau archeolegol yng Nglanfa Fawr Rhymni, i'r de o Fferm Newton yn Rhymni, cadarnhawyd i'r dirwedd hon gael ei chynllunio yn ystod y cyfnod Rhufeinig. Mae'n debyg i'r ardal gael ei draenio gan lengwyr Rhufeinig a oedd wedi'u lleoli yng Nghaerllion. Sefydlwyd pentref Llanbedr ac anheddiad ar hyd Tir Comin Broadstreet pan ddechreuodd pobl symud i'r ardal eto yn y cyfnod uwch ganoloesol. Symudwyd y morglawdd yn ôl ar ddiwedd y cyfnod canoloesol. Roedd Llanbedr yn eiddo i Abaty Awstin Sant ym Mryste, ac mae'r cysylltiad
hwn wedi dod yn rhan o draddodiad lleol. Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol Mae'r dirwedd hon yn ymestyn dros ran ganolog Gwastadedd Gwynllwg, o'r ardal arfordirol uwch drwodd i'r gefnffen isel. Mae ardaloedd 16 a 21 i'r dwyrain o Ffos Broadway. Mae ardaloedd 8/19 i'r gogledd/gorllewin. Nodweddir y dirwedd hon gan flociau trapesoidaidd o gaeau cul iawn, hir iawn. Mae nifer o elfennau echelinol pwysig yn cynnwys Tir Comin Broadstreet, enghraifft ardderchog o gomin stryd agored â ffermydd ar hyd ei ymyl wedi'u gosod yn ôl o'r ffordd. Mae'r morglawdd yn ymestyn yn anghydwedd ar draws y dirwedd, ac gellir gweld llinellau ffosydd caeau wedi'u torri i mewn i'r silff fawn rynglanw. Mae nifer fawr iawn o afaelion wedi goroesi mewn cyflwr da. Fel enghraifft sydd wedi goroesi o ardal helaeth o dir a adferwyd gan y Rhufeiniaid, yn ddiau mae'n unigryw yng Nghymru, os nad gogledd-orllewin Ewrop. Mae natur gydryw ardaloedd mawr, wedi'u cynllunio mewn caeau cul eithriadol o hir, yn cyferbynnu â'r dirwedd gymhleth ar hyd Broadstreet, lle y ceir ffermydd yn dyddio o'r cyfnod canoloesol yn ymestyn ar hyd comin stryd agored. Mae'r ardal o amgylch pentref Llanbedr, ac ar hyd Comin Broadstreet yn eithaf coediog. Fel arall, mae tirwedd yr ardal gymeriad yn eithaf agored, a cheir llawer o ffosydd caeau â chyrs yn hytrach na gwrychoedd. Mae i lawer o'r ardaloedd ymdeimlad cryf iawn o dirwedd o gaeau cul hir o hyd. At ei gilydd mae'r dirwedd hon yn bwysig dros ben, ac erys ei chyfanrwydd
a'i chydlyniant i raddau helaeth. Ar y cyfan mae mewn cyflwr ardderchog,
ar ôl iddi osgoi gwelliannau amaethyddol ar raddfa fawr. O'r morglawdd
ceir golygfeydd da iawn, er bod datblygiadau diwydiannol i'r gorllewin
a blerdwf trefol i'r gogledd yn amharu ar y golygfeydd hyn. |
|
Ffynonellau | |
Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwlwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk |