Disgrifio Nodweddian
Tirweddau Hanesyddol |
|
14 ardal gymeriad Mathern: llain fach o lifwaddod arfordirol. (Ffoto: GGAT Gwent Levels2 017) Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
Cefndir Hanesyddol
Er mai o'r unfed ganrif ar bymtheg y mae'r cyfeiriadau cynharaf at ddolydd adferedig yn yr ardal hon yn dyddio, mae bron yn sicr i'r dirwedd gael ei chreu yn ystod y cyfnod uwch ganoloesol (sef yr unfed ganrif ar ddeg i'r bedwaredd ganrif ar ddeg). Ychydig iawn o dystiolaeth ddogfennol sydd gennym yn ymwneud â'r
ardal o lifwaddod ym Mathern a Chas-gwent. Cofnodir nifer fawr o ddolydd
am y tro cyntaf o'r unfed ganrif ar bymtheg ymlaen, er ei bod yn debyg
iddynt gael eu hadfer sawl canrif yn gynharach. Mae'r enw "monks
mead" yn awgrymu bod cysylltiad ag Esgobion Llandaf, a oedd yn berchen
ar Fathern. Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol Parsel ar wahân o lifwaddod arfordirol. Gwahenir yr ardal hon a Gwastadedd St. Pierre gan yr esgair o greigwely yn Red Cliff. Mae i'r ardal hon "dirwedd afreolaidd" nodweddiadol, a dau yrlwybr dolennog, er nad oes unrhyw anheddiad. Dilynai ffin plwyf Mathern/Cas-gwent brif sianel artiffisial na wyddom pryd y'i cloddiwyd. Amddiffynnir y morlin gan forglawdd isel o bridd. Er yr arferai fod yn ardal o "dirwedd afreolaidd" nodweddiadol, niweidiwyd y parsel hwn o lifwaddod arfordirol sy'n anarferol fach drwy glirio cynifer o ffiniau caeau. Mae'r ychydig o wrychoedd sydd wedi goroesi yn rhai wedi'u torri gan mwyaf. Mae'r rheilffordd a set o beilonau hefyd yn ymwthiol yn weledol. At ei gilydd, felly, amharwyd gryn dipyn ar gyfanrwydd a chydlyniant
y dirwedd hon, er y deil yn ardal dawel ac ar wahân o dirwedd gwlyptir
gerllaw'r Moryd. |
|
Ffynonellau | |
Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwlwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk |