Disgrifio Nodweddian
Tirweddau Hanesyddol |
|
13 ardal gymeriad St Pierre: tir a adferwyd o amgylch aber/dyffryn St. Pierre Pill. (Ffoto: GGAT Gwent Levels2 002) Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
Cefndir Hanesyddol
Cysylltiadau (hy croesfan fferi/man glanio hirsefydledig), patrwm
caeau afreolaidd, nodweddion draenio (ffosydd draenio, cefnennau/draeniau
agored), morglawdd, anheddiad ar ymyl y ffen (canoloesol), cysylltiadau
hanesyddol Mae i'r ardal hon hanes hir o gysylltu dros foryd Hafren. Mae gan St. Pierre Pill yn arbennig gysylltiadau dogfennol pwysig iawn. Fe'i cofnodir fel man glanio yn y cyfnod ôl-Rufeinig, a oedd yn gysylltiedig â Sant Teudrig. Mae ffynhonnell yn dyddio o'r nawfed ganrif yn rhoi'r disgrifiad cyntaf o gylch y llanw ym Mhrydain. Rhedai croesfan fferi ganoloesol/ôl-ganoloesol bwysig o Sudbrook Point. Dichon i'r groesfan hon gael ei sefydlu yn y cyfnod Rhufeinig, gan fod cryn dipyn o ddeunydd Rhufeinig wedi'i ddarganfod yn yr ardal. Mae Ail Bont Hafren yn croesi'r Moryd ychydig i'r de. Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol Mae i'r ardal hon "dirwedd afreolaidd" a'i chanolbwynt yw nodwedd sylweddol St. Pierre Pill. Mewn mannau mae'r ardaloedd o lifwaddod ar y naill ochr a'r llall i'r "Pill" yn eithaf cul, er y ceir ardal helaethach i'r de-orllewin, dan gysgod Sudbrook Point. Ceir olion cefnennau, yn arbennig i'r de-orllewin. Mae'r morglawdd yn wrthglawdd isel syml, nas atgyfnerthwyd â choncrid modern. Mae ymyl ffen di-dor rhwng y llifwaddod a'r ucheldiroedd. Mae nifer o ffermydd ar hyd y lleoliad anheddu ardderchog hwn gan gynnwys Wallstone, anheddiad a sefydlwyd yn ôl pob tebyg gan arglwyddi Seisnig y Mers yn niwedd yr unfed ganrif ar ddeg neu yn y ddeuddegfed ganrif. Mae'r ardal hon, y mae'n well meddwl amdani efallai fel gorlifdir estynedig, yn unigryw yn y Gwastadeddau. Cyfyngedig yw'r amrywiaeth o elfennau tirwedd, ond maent wedi'u cadw mewn cyflwr gweddol dda. Mae'r rhan fwyaf o'r gwrychoedd yn rhai prysglog gyda nifer dda o goed aeddfed. Ceir rhywfaint o dir âr. Mae'r dirwedd hon yn eithaf cydlynus, ac mae wedi cadw llawer o'i gyfanrwydd. At ei gilydd mae mewn cyflwr da, er ei bod yn cael ei rhannu'n ddwy gan y llinell reilffordd ar arglawdd; mae cyfres o beilonau hefyd yn ymwthiol yn weledol, ond ceir golygfeydd ardderchog o'r ddwy bont dros foryd Hafren. Mae cyfeiriadau dogfennol cynnar pwysig iawn at St. Pierre Pill. |
|
Ffynonellau | |
Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwlwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk |