Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Gwastadeddau Gwent


12 ymyl ffen Caldicot


12 ardal gymeriad ymyl ffen Caldicot: ardal anarferol o gaeau bach afreolaidd eu siâp gerllaw ymyl y ffen. (Ffoto: GGAT Gwent Levels 006)

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

Cefndir Hanesyddol

Mae'r cyfeiriadau dogfennol cyntaf at yr ardal hon yn dyddio o ddechrau'r drydedd ganrif ar ddeg, sy'n gwneud y dolydd hyn ymhlith y cyntaf i gael eu cofnodi ar Wastadeddau Gwent. Dechreuwyd ar y gwaith o gau'r caeau agored a'r tiroedd comin bach hyn yn yr unfed ganrif ar bymtheg, a'i gwblhau yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Mae anheddiad Rhufeinig, sydd â nifer o ffosydd sylweddol o boptu iddo, gerllaw ymyl y ffen yn Stoop Hill. Roedd Caldicot yn ganolfan cynhyrchu crochenwaith bwysig hefyd, a darganfuwyd odynau yn agos at ymyl y llifwaddod.

O ran y dirwedd hanesyddol, mae a wnelo rhai o'r cyfeiriadau dogfennol cynharaf at ddolydd a adferwyd ar y Gwastadeddau, yn dyddio o'r drydedd ganrif ar ddeg (hy Temple Mead) â'r ardaloedd hyn.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Caeau bach afreolaidd eu siâp a grëwyd drwy adfer tir bob yn dipyn; maent yn cynnwys enghraifft bwysig "Temple Mead" y ceir llawer o gyfeiriadau ati mewn dogfennau, gyrlwybrau dolennog, a pharseli bach o dir comin, cysylltiadau hanesyddol

Ardal o dir a adferwyd sy'n ffinio ag ymyl y ffen o amgylch pentref Caldicot. Mae Ffos Ifftwn yn ei hamgylchynu i'r gorllewin (ardal 11).

Mae hon yn dirwedd o gaeau bach afreolaidd eu siâp, gyrlwybrau dolennog a pharseli bach o dir comin. Crëwyd yr ardaloedd hyn bob yn dipyn o'r rhostir a ddefnyddid fel tir comin (ardal 11); ffrwyth un episod o'r fath yw'r darn hirgrwn fwy neu lai o dir sydd wedi'i ddiffinio ym mhatrwm y ffiniau caeau, gan y morglawdd i'r de o Rogiet. Dyma oedd "Temple Mead" a gofnodwyd yn y drydedd ganrif ar ddeg.

Ni fu unrhyw aneddiadau. Dengys ffotograffau a dynnwyd o'r awyr rai o'r enghreifftiau mwyaf nodedig o "gefnen a rhych" a grëwyd gan weithgarwch aredig yn yr Oesoedd Canol, ar Wastadeddau Gwent (a ddinistriwyd ers hynny). Nid oes cefnennau/draeniau agored yn yr un cae.

Er bod y math hwn o "dirwedd afreolaidd" yn gyffredin yn yr ardaloedd arfordirol uwch ymhellach i'r gorllewin, mae'n anarferol ei gael gerllaw ymyl y ffen. Mae tystiolaeth ddogfennol gynnar, a'r ffaith bod Temple Mead wedi goroesi yn ychwanegu at bwysigrwydd y dirwedd.

Lleiheir gwerth yr ychydig sydd wedi goroesi gan Ail Bont Hafren a datblygiad trefol/diwydiannol o amgylch Caldicot. Fodd bynnag, mae cryn gydlyniant a chyfanrwydd yn perthyn i Temple Mead".

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwlwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk