Disgrifio Nodweddian
Tirweddau Hanesyddol |
|
11 ardal gymeriad Rhostir Caldicot: "tirwedd reolaidd" a grëwyd drwy gau caeau agored drwy ddeddf seneddol. (Ffoto: GGAT Gwent Levels2 021) Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
Cefndir Hanesyddol
Crëwyd y dirwedd gyfan hon yn 1850 drwy gau'r hen dir comin. Ardal o dir comin ydoedd a ddefnyddid gan nifer o gymunedau lleol i bori
eu hanifeiliaid a chyfeirir ati mewn llawer o ddogfennau canoloesol a
diweddarach. Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol Ffiniau'r ardal hon yw Collister Pill i'r gorllewin (ardal 6), ymyl y ffen ac Ail Bont Hafren i'r gogledd/dwyrain a'r arfordir i'r de. Mae Ffos Ifftwn (ardal 12) i'r dwyrain. Mae'r dirwedd yn cynnwys grid o lonydd gwyrdd a chaeau sgwâr i hirsgwar. Nid oes unrhyw aneddiadau. I'r gorllewin o Collister Pill mae morglawdd canoloesol creiriol (Heneb Gofrestredig), ac mae'r morglawdd modern (1850) wedi'i godi ar hyd yr arfordir presennol. Mae llawer o gaeau yn cynnwys olion tonnog hen gilfachau llanw, sydd wedi llenwi â llaid ers adeiladu'r morglawdd. Dyma un o'r ychydig ardaloedd lle y mae tirwedd ddi-dor o'r arfordir i ymyl y ffen. Ar lawr gwlad gellir gweld bod y tir yn codi ychydig tua'r arfordir. Dyma un o'r ddwy dirwedd Seneddol bwysig yn unig yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg sydd wedi goroesi ar y Gwastadeddau. Am iddi gael ei chreu drwy gau tir comin (fel y digwyddodd yn achos Green Moor sydd bellach wedi'i ddinistrio i raddau helaeth), yn hytrach na chaeau agored (e.e. Broadmead), mae'n unigryw. Mae'r holl nodweddion yn dyddio o oddeutu 1850. Felly, tirwedd dra phrin ydyw sy'n perthyn i un cyfnod ac sy'n dra chydryw. Mae hefyd yn un o'r ychydig ardaloedd o ymyl ffen sydd wedi goroesi. Nid oes gafaelion yn yr un cae, er y ceir cloddwaith helaeth ar ffurf cilfachau llanw a lenwyd. Mae cryn amrywio o ran y math o wrychoedd a geir yn yr ardal: mae'r rhai i'r gogledd yn tueddu i gael eu cynnal a'u cadw'n well, tra bod y gwrychoedd i'r de yn fwy prysglog neu hyd yn oed yn llawn coed. At ei gilydd mae hon yn dirwedd dra chydlynus sydd wedi cadw ei chyfanrwydd
yn dda. Fodd bynnag, dinistriwyd rhan o'r ardal gan Ail Bont Hafren. Mae
llawer o'r tir sydd ar ôl y tu allan i ffiniau'r Safle o Ddiddordeb
Gwyddonol Arbennig. O ganlyniad i welliannau amaethyddol collwyd cryn
nifer o wrychoedd, sy'n cynyddu effaith Ail Bont Hafren yn fwy byth. Ceir
hefyd resi o beilonau ar draws y Rhostir. |
|
Ffynonellau | |
Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwlwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk |