Disgrifio Nodweddian
Tirweddau Hanesyddol |
|
06 ardal gymeriad Redwick/Magwyr/Gwndy: "tirwedd afreolaidd" gymhleth yn cynnwys rhai aneddiadau gwasgaredig. (Ffoto: GGAT Gwent Levels 026) Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
Cefndir Hanesyddol
Fel mewn mannau eraill, mae'r "dirwedd afreolaidd" hon yn deillio o broses raddol o amgáu ac adfer tir, a gyflawnwyd yn ôl pob tebyg rhwng yr unfed ganrif ar ddeg a'r bedwaredd ganrif. Cafwyd cyfnod pwysig o newid yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan gaewyd comins stryd. Gwyddys bod safleoedd cynhanesyddol, Rhufeinig a chanoloesol pwysig iawn yn y parth rhynglanw; mae'n debyg bod y cyfryw dystiolaeth yn parhau i mewn i'r tir o dan y llifwaddod diweddarach. Ceir casgliad o ddogfennaeth dda ar gyfer yr ardal, gan gynnwys cyfeiriadau
at borthladd a melin ganoloesol, a elwir yn "Abergwaith", gerllaw
y Gwaith Carthion. Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol Ardal o dir arfordirol uwch. Ffos Windmill a Broadmead i'r gorllewin (ardal 7); Ffos Ynys Mead (ardal 8), Lower Grange (ardal 10) ac ymyl y ffen i'r gogledd; Collister Pill/Rhostir Caldicot (ardal 11) i'r dwyrain. Mae'r dirwedd amrywiol hon yn cynnwys patrwm o gaeau afreolaidd bach yn debyg i ardal 1. Mae gan Dir Comin Gwndy "dirwedd reolaidd" yn deillio o waith amgáu tir yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae amrywiaeth o nodweddion eraill, gan gynnwys rhai pontydd nodedig. I'r gorllewin o Magor Pill mae i'r morglawdd wyneb o gerrig llanw a mur dychwelyd tonnau: i'r dwyrain, gwrthglawdd syml ydyw a chanddo wyneb o gerrig nadd. Mae'r morglawdd yn ymestyn yn anghydwedd dros y dirwedd gan greu cyfres o gaeau trionglog. Mae darn o forglawdd creiriol sydd wedi'i gadw mewn cyflwr da yn rhedeg ar hyd Collister Pill (sef Heneb Gofrestredig) - Ceir nifer o brif ffosydd canoloesol (e.e. Windmill a Coldharbour) a Ffos Mill sydd rhwng cloddiau. Mae hon yn enghraifft nodweddiadol o "dirwedd afreolaidd", yn cynnwys amrywiaeth mawr o elfennau, sydd wedi'i chadw mewn cyflwr da at ei gilydd. Saif pentref Redwick yn y canol, tra bod Ffos Mill a morglawdd creiriol Collister Pill yn nodweddion eraill sy'n rhoi canolbwynt (er eu bod yn llinellol). Yn y rhan fwyaf o'r ardaloedd ceir cymysgedd o wrychoedd prysglog a gwrychoedd
wedi'u torri; i'r de o bentref Redwick maent yn fwy coediog. O amgylch
Coldharbour Pill, yn yr ardal i'r gogledd o bentref Redwick a'r ardal
i'r de-ddwyrain o Wndy ehangwyd llawer o'r caeau a gwelir llawer o wrychoedd
wedi'u torri'n dda. |
|
Ffynonellau | |
Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwlwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk |