Mae diwyg ffeil PDF yn ddiwyg ffeil rhyngrwyd cyffredin (ystyr PDF yw Diwyg Dogfen Gludadwy neu Portable Document Format ). Fe'i defnyddir ar gyfer dosbarthu'n electronig am ei fod yn cadw edrychiad a swmp y ddogfen wreiddiol yn ffyddlon ynghyd â'r ffontiau, lliwiau, delweddau a'r gosodiad. Gellir ei ddefnyddio yn ogystal ar sawl gwahanol fath o gyfrifiaduron a phorwyr. Fe'i defnyddir yn aml ar gyfer cyhoeddiadau'r llywodraeth, taflenni a ffurflenni.
Mae dau opsiwn ar sut i agor ffeil PDF. Gallwch lwytho rhaglen i lawr o'r enw Acrobat Reader a'i gosod ar eich cyfrifiadur. Mae'r rhaglen ar gael am ddim ar wefan Adobe Acrobat. Am fod y ffeil sydd wedi'i llwytho i lawr yn fawr-yn fwy aml na dim o gwmpas 8MB a 16MB-efallai bydd hi'n rhwyddach i chi ddod o hyd i gopi o'r rhaglen ar un o'r Cryno Ddisgiau a ddosberthir gan gylchgronau cyfrifiadur.
Yr ail opsiwn yw defnyddio offer trawsnewid PDF ar-lein. Gallwch ymweld â gwefan Adobe Acrobat, teipio cyfeiriad ffeil PDF a throsi'r ffeil i mewn i ddiwyg sy'n fwy darllenadwy tra eich bod yn aros. Neu gallwch e-bostio cyfeiriad y ffeil (neu'r ffeil ei hun) at Adobe, a byddant hwy'n e-bostio trosiad yn ôl atoch. Efallai na fydd trosiadau'r ffeiliau hyn wedi'u fformatio mor eglur â'r ffeil PDF wreiddiol.
Gallwch ffurfweddu eich porwr gwe i agor ffeiliau PDF naill ai o fewn ffenestr y porwr neu o fewn ffenestr Adobe Acrobat ar wahân. Ceir cyfarwyddiadau manwl ar wefan Acrobat ar sut mae gwneud hynny ar gyfer porwyr gwahanol.
Mae safonau ffeiliau PDF wedi gwella dros y blynyddoedd ac maent wedi dod yn haws eu cyrraedd drwy dechnolegau megis darllenwyr sgriniau, llywio drwy ddefnyddio'r bysellfwrdd a gwelliant wrth wylio'r sgrin. Mae safle Adobe yn rhoi gwybodaeth ar y ffordd orau o ddefnyddio'r nodweddion hyn. Efallai byddwch yn dod o hyd i fersiynau cynharach o ffeiliau PDF nad ydynt mor hawdd eu cyrraedd.
Pan fyddwch chi'n agor ffeil PDF bydd bar offer Acrobat yn ymddangos, gan gynnwys nifer o offer i'ch helpu i weld a chwilio yn y ddogfen. Wrth redeg eich llygoden dros yr eiconau, heb glicio arnynt, byddwch yn darganfod beth yw swyddogaeth bob un ohonynt. Bydd yr offer Chwilio yn chwilio'r ddogfen am air neu ymadrodd.
Heb os, Adobe Acrobat Reader yw'r rhaglen wylio PDF fwyaf poblogaidd. Serch hynny mae sawl rhaglen wylio arall ar gael i'w llwytho i lawr a fydd yn eich galluog i i edrych ar ac argraffu dogfennau PDF ar nifer o wahanol blatfformau a systemau.